Er bod “arwyddion calonogol” fod y clo dros dro wedi arafu nifer yr achosion o’r coronafeirws yng Nghymru mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi rhybuddio bydd nifer y marwolaethau Covid-19 yn cyrraedd ei anterth unwaith eto yn ystod y gaeaf.

Yn ystod pythefnos cyntaf mis Tachwedd cofnodwyd mwy na 250 o farwolaethau o ganlyniad i’r coronafeirws yng Nghymru.

“Mae’r don barhaus o achosion yn yr Hydref wedi bod yn codi’n sydyn ers diwedd mis Awst”, meddai mewn cynhadledd i’r wasg brynhawn dydd Llun, (Tachwedd 16).

“Mae’r don wedi bod gymaint yn fwy na’r Gwanwyn oherwydd bod profion torfol wedi bod ar gael ac rydym wedi gallu canfod achosion yn y gymuned. Yn y gwanwyn, dim ond mewn ysbytai a chartrefi gofal yr oeddem yn gallu profi pobol.

“Mae’n ymddangos ein bod bellach yn mynd tuag at brig arall y gaeaf hwn.

“Mae hyn yn dangos pwysigrwydd y clo dros dro diweddar.

“Yn ystod pythefnos cyntaf mis Tachwedd mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cofnodi mwy na 250 o farwolaethau o ganlyniad i’r coronafeirws.

“Mae hwn yn ffigwr sobr iawn. Ond wrth gwrs, nid niferoedd yn unig yw’r rhain – pobol yw’r rhain ac mae mwy na 250 o deuluoedd ledled Cymru yn galaru.

“Rwy’n gobeithio bod y ffigurau hyn yn helpu i egluro pam rydym yn ystyried y coronafeirws mor ddifrifol, a pham rydym ni – fel llywodraethau ledled y byd – yn cymryd camau i ddiogelu iechyd pobol.”

Achosion newydd a nifer y marwolaethau Covid-19 adroddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ers dechrau’r pandemig

‘Arwyddion calonogol’

Eglurodd fod arwyddion calonogol bod nifer yr achosion coronafeirws yng Nghymru yn gostwng yn dilyn y cyfnod clo dros dro.

Mae 160 o achosion ymhob 100,000 o bobol yng Nghymru – gostyngiad o 70 ers yr wythnos diwethaf.

Ym Merthyr Tudful, a oedd a’r cyfraddau uchaf yn y Deyrnas Unedig ychydig dros wythnos yn ôl, mae’r gyfradd wedi mwy na haneru i tua 330 o achosion i bob 100,000 o bobol.

Nadolig gwahanol eleni

Chwe wythnos cyn y Nadolig doedd dal dim modd i’r Gweinidog Iechyd amlinellu beth fydd y trefniadau ar gyfer cyfnod yr Ŵyl

Cynhaliwyd cyfarfod rhwng holl wledydd y Deyrnas Unedig yr wythnos ddiwethaf ac mae’r gwledydd wedi cytuno i gydweithio.

“Mae’n rhy gynnar i roi trefniadau terfynol mewn lle,” meddai Vaughan Gething.

“Roedd hi’n benwythnos Diwali y penwythnos hwn a oedd yn brofiad gwahanol iawn.

“Mae Covid eisoes wedi cael effaith ar wyliau a digwyddiadau lle byddai pobol fel arfer yn dod ynghyd, beth bynnag fydd yn digwydd o ran y Nadolig eleni bydd hi yn wahanol i’r arfer.”

Ffigurau diweddaraf

Cofnodwyd 892 yn rhagor o achosion o’r coronafeirws yng Nghymru, gan ddod â chyfanswm yr achosion a gadarnhawyd i 67,106.

Adroddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ddwy farwolaeth arall, gan ddod â’r cyfanswm yng Nghymru ers dechrau’r pandemig i 2,209.

Gallwch weld y ffigurau diweddaraf ar gyfer y ‘gyfradd saith diwrnod’ o achosion Covid-19 newydd ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru yma.