Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddileu rheol “chwerthinllyd” sy’n atal pobol o aelwydydd estynedig rhag mynd ar wyliau gyda’i gilydd yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, gall dwy aelwyd yng Nghymru ymuno, ymweld ac aros dros nos yng nghartrefi ei gilydd ond mae rheolau Llywodraeth Cymru yn dweud na allant fynd ar wyliau gyda’i gilydd.

Yn ôl Llywodraeth Cymru y rheswm am hyn yw gan na fyddai modd i ddarparwyr llety gwyliau gadarnhau pwy sydd yn rhan o aelwyd estynedig.

‘Chwerthinllyd’

“Rhaid i Weinidogion ddileu’r cyfyngiad gwyliau chwerthinllyd hwn a rhoi’r cyfle i ddiwydiant twristiaeth Cymru ail gychwyn yn iawn,” meddai Gweinidog Twristiaeth cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar.

“Mae’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru wedi cael ei daro yn wael iawn o ganlyniad i gyfyngiadau Llywodraeth Cymru gyda sawl rhan o’r wlad wedi wynebu wythnosau o gyfyngiadau teithio lleol yn ogystal â’r clo diweddar.

“Mae’r rheol ddiweddaraf yma yn awgrymu nad yw Llywodraeth Cymru yn ymddiried yn y sector twristiaeth na’u cwsmeriaid i gadw at y rheolau.

“Mae llawer o bobol wedi cynllunio gwyliau haeddiannol gyda’u hanwyliaid i ddygymod â’r cyfnod yma ac mae ein darparwyr llety gwyliau yn barod i’w croesawu, ond mae rheolau Llywodraeth Cymru yn rhwystr.”