Mae cyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama, wedi rhybuddio bod yr Unol Daleithiau yn mynd ar “drywydd peryglus” ar ol i Donald Trump wrthod derbyn canlyniad yr etholiad.
Enillodd y Democrat Joe Biden yr etholiad yn gyfforddus, gyda chyfanswm o 306 pleidlais yn y coleg etholiadol, ond nid yw’r Arlywydd yn fodlon derbyn hynny.
Yn hytrach, mae’n parhau i wneud honiadau di-sail o “dwyll enfawr”, ac yn galw am ymchwiliadau mewn ymdrech i wrthdroi’r canlyniad.
Dywedodd Barack Obama, a wahoddodd Donald Trump i’r Tŷ Gwyn yn fuan ar ôl iddo ennill yr etholiad bedair blynedd yn ôl a chydweithredu wrth drosglwyddo grym, nad yw’n synnu ei fod yn gwrthod derbyn canlyniad yr etholiad.
“Rwy’n poeni mwy am y ffaith bod swyddogion Gweriniaethol eraill, sy’n amlwg yn gwybod yn well, yn cyd-fynd â hyn,” meddai wrth CBS.
“Mae’n un cam arall yn ei ymdrech i danseilio nid yn unig gweinyddiaeth newydd Biden ond democratiaeth yn gyffredinol. Ac mae hwnnw’n drywydd peryglus.”