Bydd achos yn dechrau yn y Goruchaf Lys heddiw (Tachwedd 16) lle bydd cwmniau yswiriant yn clywed a fyddan nhw’n gorfod talu arian i fusnesau am yr effaith mae pandemig y coronafeirws wedi’i gael ar eu busnes.
Mae disgwyl i’r gwrandawiad bara pedwar diwrnod a gallai effeithio ar gannoedd ar filoedd o fusnesau a thaliadau o tua £1.2 biliwn.
Roedd yr achos cychwynnol, a gyflwynwyd gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA), yn ymwneud â geiriad polisïau yswiriant ynglyn a tharfu ar fusnes.
Mae rhai cwmniau yswiriant wedi dadlau nad yw eu polisïau yn cwmpasu digwyddiadau fel pandemig y coronafeirws.
Mae’r Uchel Lys eisoes wedi dyfarnu y dylai’r polisiau sy’n ymwneud a chlefydau, yn y rhan fwyaf o’r achosion, ond nid pob un, dalu arian i fusnesau.
Dywedodd yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol ei fod wedi lansio’r camau cyfreithiol yn dilyn pryderon ynghylch y “diffyg eglurder a sicrwydd” i fusnesau sy’n ceisio talu am golledion sylweddol yn sgil y pandemig a’r clo cenedlaethol dilynol.