Mae trafodaethau am gytundeb masnach rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd ar ôl Brexit yn parhau’r wythnos hon, gydag amser yn brin tan ddiwedd y cyfnod pontio.

Mae’r Arglwydd David Frost ym Mrwsel ar gyfer rownd arall o drafodaethau cyn uwchgynhadledd fideo’r Cyngor Ewropeaidd ddydd Iau (Tachwedd 19) sydd wedi’i grybwyll fel dyddiad cau ar gyfer cytundeb ddrafft.

Gadawodd y Deyrnas Unedig yr Undeb Ewropeaidd yn ffurfiol ym mis Ionawr, ond bydd yn parhau i ddilyn rheolau’r bloc tan ddiwedd y flwyddyn – ychydig dros chwe wythnos i ffwrdd.

Os nad oes cytundeb ar waith erbyn diwedd mis Rhagfyr, bydd nwyddau sy’n teithio rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd yn dod o dan rym tariffau a nodir gan Sefydliad Masnach y Byd.

Mae’n debyg bod y materion sydd eto i’w datrys yn cynnwys hawliau pysgota, sut y byddai unrhyw gytundeb yn cael ei lywodraethu, yn ogystal â mesurau sydd â’r nod o atal cystadleuaeth annheg ar faterion gan gynnwys cymorthdaliadau’r wladwriaeth.

Wrth siarad cyn y trafodaethau, dywedodd yr Arglwydd David Frost bod cynnydd “cadarnhaol” wedi cael ei wneud yn y dyddiau diwethaf.

Fodd bynnag, ychwanegodd efallai na fydd y trafodaethau’n llwyddo ac ailadroddodd y pwynt a wnaed gan Boris Johnson fod yn rhaid i’r wlad fod yn barod i adael heb gytundeb.

Sicrhau cytundeb yn “bosib”

Bydd unrhyw gytundeb yn gorfod cael ei gymeradwyo gan aelodau’r Undeb Ewropeaidd, y Senedd Ewropeaidd a Senedd y Deyrnas Unedig, sy’n golygu fod amser yn brin.

Nid yw’r agenda ar gyfer cyfarfod arweinwyr Ewropeaidd ddydd Iau (Tachwedd 19) yn crybwyll Brexit, gyda’r ymateb i bandemig y coronafeirws yn flaenllaw.

A gyda dim ond un cyfarfod arall – rhwng 10-11 Rhagfyr – wedi’i drefnu cyn diwedd y cyfnod pontio, mae’n debyg y bydd yn foment allweddol wrth lunio ymadawiad y Deyrnas Unedig.

Dywedodd gweinidog materion tramor Iwerddon Simon Coveney ddydd Sul (Tachwedd 15) fod bargen yn “bosibl”.

“Rwy’n credu y byddwn yn crynhoi hyn drwy ddweud bod sicrhau cytundeb yn mynd i fod yn anodd iawn, ond mae’n bosibl.

“Ac rwy’n credu bod oblygiadau peidio â sicrhau cytundeb fasnach a chytundeb ar ein perthynas yn y dyfodol cyn diwedd y flwyddyn yn arwyddocaol iawn.”