Y Deyrnas Unedig fydd y wlad gyntaf i gynnal cam olaf treialon o frechlyn y coronafeirws sy’n cael ei ddatblygu gan gwmni sy’n berchen i Johnson & Johnson.
Bydd trydydd cymal treial y brechlyn yn dechrau ddydd Llun (Tachwedd 16), a dyma fydd y cyntaf o astudiaeth dau ddos.
Ar gyfer yr astudiaeth dau ddos, mae ymchwilwyr yn bwriadu recriwtio tua 6,000 o gyfranogwyr yn y Deyrnas Unedig – o gyfanswm o 30,000 o bobl yn fyd-eang – mewn 17 o safleoedd ledled y wlad.
Mae’r rhain yn cynnwys Caerdydd, Southampton, Bryste, Llundain, Caerlŷr, Sheffield, Manceinion, Dundee a Belfast.
Hyd yma mae tua 25,000 o bobl yn y Deyrnas Unedig wedi cymryd rhan mewn treialon brechlyn, ac mae dros 310,000 wedi nodi eu parodrwydd i gymryd rhan mewn astudiaethau clinigol drwy ymuno â chofrestr ymchwil brechlynnau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
“Dydyn ni ddim yn gwybod sut mae pob un o’r brechlynnau hyn yn mynd i ymddwyn a pha rai sy’n mynd i greu’r imiwnedd tymor byr a thymor hir,” meddai Saul Faust, athro imiwnedd pediatrig a chlefydau heintus ym Mhrifysgol Southampton ac Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbyty Prifysgol Southampton.
“Ac ni allwn fod yn sicr y bydd y cyflenwad brechlyn yn effeithlon ac yn effeithiol, lle bynnag y mae’n cael ei wneud yn y byd.”
Dywedodd Kate Bingham, cadeirydd Tasglu Brechlyn y Deyrnas Unedig: “Oherwydd bod gennym gofrestr genedlaethol o wirfoddolwyr sy’n barod i fynd i dreialon clinigol, mae wedi cyflymu ein gallu i gofrestru treialon.
“Ac mae hynny’n golygu bod y Deyrnas Unedig yn lle ffafriol iawn i gynnal astudiaethau ac felly mae Novavax wedi ehangu’r astudiaeth honno, ac wrth gwrs mae Janssen wedi dod i’r Deyrnas Unedig am y cyntaf o’i hastudiaeth dau ddos.”
“Bydd cryn amser cyn i’r rhan fwyaf o’r boblogaeth gael brechlyn”
Mae’r Deyrnas Unedig wedi sicrhau 30 miliwn dos o frechlyn Janssen os yw’r treialon yn llwyddiannus.
Dywedodd yr Athro Faust, prif ymchwilydd treialon Janssen yn y DU, fod 40,000 o bobol ar gofrestr brechlyn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol sydd yn yr ardaloedd cod post o amgylch y canolfannau brechlyn ar gyfer astudiaeth Janssen.
Mae disgwyl iddyn nhw dderbyn gwahoddiad i gymryd rhan yn yr astudiaeth yn ail hanner yr wythnos hon.
Fodd bynnag, dywedodd yr Athro Faust: “Bydd cryn amser cyn i’r rhan fwyaf o’r boblogaeth gael brechlyn y coronafeirws oherwydd anawsterau technegol gweithgynhyrchu, cyflawni nifer y brechlynnau sydd ei angen yn y Deyrnas Unedig, ac yna ei ddosbarthu i gymaint â hynny o bobl.”