Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi rhoi rhybudd clir i bobl gadw at y rheoliadau newydd a chyfyngu ar eu cyswllt a phobl eraill gymaint â phosib, yn dilyn ciwiau hir tu allan i siopau a bwytai yn ystod y penwythnos cyntaf ers codi cyfyngiadau’r cyfnod clo byr.

Dywedodd Dr Giri Shankar, Cyfarwyddwr Digwyddiadau ar gyfer yr ymateb i Covid-19 yn ICC eu bod eisiau “atgoffa pawb bod y Coronafeirws yn bodoli o hyd yn ein cymunedau ni ac felly nid yw’n golygu dychwelyd i normalrwydd.”

Cafodd ciwiau hir eu gweld mewn llefydd fel Caerdydd dros y penwythnos ac mae Dr Giri Shankar wedi cynghori pobl “i ysgwyddo cyfrifoldeb personol am eu gweithredoedd” a gwneud cymaint â phosib i gyfyngu ar drosglwyddo’r Coronafeirws.

Cyngor

“Rydym yn deall y bydd pobl eisiau parhau a’u siopa Nadolig gan fod y cyfnod atal byr wedi dod i ben erbyn hyn. Felly, byddem yn awgrymu ceisio ymweld â siopau yn ystod adegau tawel, er mwyn gallu cadw pellter cymdeithasol bob amser a gwisgo gorchudd wyneb os gallwch chi.

“Efallai y bydd opsiynau megis ‘clicio a chasglu’ neu brynu ar-lein yn bethau i’w hystyried hefyd,” meddai.

Mae rheoliadau newydd yn cynnwys cadw o gartrefi pobl eraill, cyfyngu ar y nifer o weithiau a’r nifer o bobl rydych yn eu cyfarfod, cadw pellter cymdeithasol a sicrhau hylendid dwylo, gweithio o gartref os gallwch chi, a hunanynysu os ydych chi’n dangos symptomau’r coronafeirws neu os ydych chi wedi cael cais i wneud hynny gan olrheinwyr cysylltiadau.

“Mae’n hynod bwysig mai dim ond siwrneiau hanfodol ydym yn eu gwneud, gan gadw at fesurau cadw pellter cymdeithasol llym gyda’r rhai nad ydym yn byw gyda nhw, a lleihau nifer y bobl rydym yn cwrdd â hwy. Bydd yr holl gamau hyn yn helpu i dorri’r cadwyni trosglwyddo, yn lleihau lledaeniad y feirws, ac yn cadw pobl yn ddiogel,” meddai Dr Giri Shankar.