Dyma’r ffigurau diweddaraf ar gyfer y ‘gyfradd saith diwrnod’ o achosion Covid-19 newydd ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.
Mae’r ffigurau, ar gyfer y saith diwrnod hyd at 12 Tachwedd, yn seiliedig ar brofion a gynhaliwyd yn labordai GIG Cymru a’r rhai a gynhaliwyd ar drigolion Cymru a brosesir mewn labordai masnachol.
Mae’r cyfraddau wedi gostwng mewn 19 o’r 22 awdurdod lleol – gan godi yng Nghastell-nedd Port Talbot, Sir Benfro a Thorfaen.
Ym Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Blaenau Gwent y gwelwyd y ffigurau’n cwympo fwyaf.
Merthyr Tudful sydd â’r gyfradd uchaf yng Nghymru o hyd, gyda 205 o achosion newydd wedi’u cofnodi yn y saith niwrnod hyd at 12 Tachwedd – sy’n cyfateb i 339.8 o achosion i bob 100,000 o bobl.
Mae hyn i lawr o 590.1 achos i bob 100,000 yn y saith diwrnod hyd at 5 Tachwedd.
Blaenau Gwent sydd â’r gyfradd uchaf ond un, gan ostwng o 439.4 i 300.6, gyda 210 o achosion newydd.
Castell-nedd Port Talbot sydd yn drydydd, mae’r gyfradd wedi cynyddu yno o 288.9 i 295.2, gyda 423 o achosion newydd.
Dyma’r cyfraddau diweddaraf yn llawn…
Mae’r ffigurau yn seiliedig ar ddata a gyhoeddwyd ar ddangosfwrdd gwyliadwriaeth Covid-19 Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 16 Tachwedd.
Mae data ar gyfer y pedwar diwrnod diwethaf (Tachwedd 13-16) wedi’i hepgor gan ei fod yn anghyflawn ac yn tanddatgan gwir nifer yr achosion.
O’r chwith i’r dde, mae’r rhestr fel a ganlyn: enw’r awdurdod lleol; cyfradd yr achosion newydd yn y saith diwrnod hyd at 12 Tachwedd; nifer (mewn cromfachau) o achosion newydd a gofnodwyd yn y saith diwrnod hyd at 12 Tachwedd; cyfradd yr achosion newydd yn y saith diwrnod hyd at 5 Tachwedd; nifer (mewn cromfachau) o achosion newydd a gofnodwyd yn y saith diwrnod hyd at 5 Tachwedd.
Merthyr Tudful 339.8 (205), 590.1 (356)
Blaenau Gwent 300.6 (210), 439.4 (307)
Castell-nedd Port Talbot 295.2 (423), 288.9 (414)
Rhondda Cynon Taf 287.7 (694), 504.0 (1216)
Caerffili 226.4 (410), 306.5 (555)
Abertawe 225.1 (556), 338.5 (836)
Pen-y-bont ar Ogwr 215.6 (317), 339.3 (499)
Torfaen 175.6 (165), 156.4 (147)
Casnewydd 160.3 (248), 179.7 (278)
Caerdydd 154.5 (567), 264.1 (969)
Wrecsam 150.0 (204), 228.7 (311)
Sir Gaerfyrddin 147.3 (278), 156.3 (295)
Sir y Fflint 134.5 (210), 160.8 (251)
Sir Fynwy 127.9 (121), 134.3 (127)
Bro Morgannwg 113.0 (151), 155.0 (207)
Powys 105.7 (140), 126.9 (168)
Sir Ddinbych 81.5 (78), 85.7 (82)
Ceredigion 70.2 (51), 118.3 (86)
Conwy 58.9 (69), 85.3 (100)
Sir Benfro 57.2 (72), 40.5 (51)
Gwynedd 49.0 (61), 53.0 (66)
Ynys Môn 34.3 (24), 64.2 (45)