Penderfynodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, fwrw ymlaen â chynlluniau y gwyddai na allai’r Trysorlys eu bodloni pan gyflwynodd gyfnod clo am bythefnos yng Nghymru, yn ôl Ysgrifennydd Cymru Simon Hart.
Yn sesiwn Cwestiynau Cymru yn San Steffan heddiw (Tachwedd 18), dywedodd Nia Griffith, Ysgrifennydd Cymru Cysgodol Llafur: “Yn anffodus yr wythnos hon rydym wedi gweld dirmyg llwyr y Prif Weinidog tuag at ddatganoli, ac eto dim ond oherwydd y pwerau datganoledig y llwyddodd Llywodraeth Lafur Cymru i ddilyn cyngor y gwyddonwyr a chyflwyno cyfnod clo ar y pryd y gallai fod yn fwyaf effeithiol.
“Galwodd Llywodraeth Cymru ar y Canghellor i ymestyn y cynllun ffyrlo er mwyn cefnogi busnesau, felly pam y methodd yr Ysgrifennydd Gwladol â sicrhau’r gefnogaeth honno i weithwyr yng Nghymru a pham mai dim ond ar ôl i Loegr ddilyn arweiniad Cymru’n hwyr y cafodd ei rhoi ar waith?”
Wrth ymateb, dywedodd Mr Hart: “Nid cystadleuaeth rhwng dwy lywodraeth yw’r ateb i hyn. Yr ateb yw cydweithio’n fwy cydweithredol.
“Cyn belled ag y mae datganiadau’r Canghellor yn mynd, fe’i gwnaeth yn glir iawn mewn galwad ffôn i’r Prif Weinidog beth yn union oedd yn bosibl a’r hyn nad oedd, ac eto am ryw reswm penderfynodd y Prif Weinidog fwrw ymlaen â chynlluniau y gwyddai na allai’r Trysorlys eu bodloni o fewn yr amserlen oedd ar gael.”
“Gwrthodwyd pob un ohonynt yn llwyr”
Taro’n ôl wnaeth llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, gan ddweud wrth golwg360 mewn datganiad:
“Wrth gyflwyno ‘toriad tân’, a oedd yn cynnwys yr egwyl hanner tymor, dilynwyd y cyngor gwyddonol clir iawn a oedd ar gael i bob un o bedair llywodraeth y Deyrnas Unedig, er mwyn rheoli’r feirws ac atal y GIG rhag cael ei lethu.
“Ers hynny, mae Llywodraeth y DU wedi dilyn ein dull gweithredu, ond am gyfnod hwy.
“Cyn y penderfyniad i gyflwyno ‘toriad tân’, gwnaethom gyfres o gynigion synhwyrol i’r Canghellor ynghylch y dyfodol a’r cynllun olynol arfaethedig i gefnogi busnesau a gweithwyr yng Nghymru.
“Gwrthodwyd pob un ohonynt yn llwyr.
“Pan aeth Lloegr i mewn i glo, llwyddodd y Canghellor i ymestyn y cynllun ffyrlo ar unwaith i gefnogi mesurau cloi i lawr yno, a ledled y DU. Nid oes rheswm pam na allai Llywodraeth y DU fod wedi cymryd yr un camau i Gymru pan ofynnodd y Prif Weinidog iddi wneud hynny.”
“Nhw ddylai fod yn chwarae rhan lawer mwy gweithgar”
Wrth ymateb i arweinydd Plaid Cymru, Liz Saville-Roberts, yn y sesiwn Cwestiynau Cymru, beirniadodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart, Lywodraeth Cymru eilwaith drwy ddweud y dylai fod yn fwy “gweithgar”.
“Wrth gwrs, rwy’n llwyr gefnogi datganoli. Ond nid yw datganoli’n golygu trosglwyddo pŵer o San Steffan i Gaerdydd yn unig,” meddai.
“Yr hyn y mae’n ei olygu mewn gwirionedd yw gwneud y penderfyniadau ar y lefelau agosaf posibl i le mae’n wirioneddol bwysig, sef ledled Cymru i gyd.
“Dyna pam yr wyf wedi cynnal sgyrsiau gydag awdurdodau lleol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac eraill gan gynnwys Llywodraeth Cymru oherwydd, mewn gwirionedd, nhw ddylai fod yn chwarae rhan lawer mwy gweithgar nag y maen nhw wedi hyd yma yn y broses o wneud penderfyniadau a blaenoriaethu dros gyllid.”
Wrth ymateb i’r feirniadaeth honno, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth golwg360:
“Gwneir penderfyniadau am yr ymateb i’r pandemig yng Nghymru yng Nghymru.
“Fodd bynnag, mae’r Prif Weinidog [Mark Drakeford] wedi bod yn glir o’r cychwyn cyntaf yr hoffai gael rhythm rheolaidd a dibynadwy o gyfarfodydd pedair gwlad fel y gallwn ddysgu mwy o ymateb pob llywodraeth i’r pandemig.”