Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd profi coronafeirws torfol yn dechrau ym Merthyr Tudful ddydd Sadwrn (Tachwedd 21).

Dyma’r ardal gyntaf yng Nghymru lle bydd cynllun o’r fath yn cael ei gyflwyno, a hynny gan ddefnyddio cymorth y fyddin.

Roedd gan Merthyr Tudful y gyfradd uchaf o achosion o’r feirws yng ngwledydd Prydain wythnos diwethaf – 741 o achosion i bob 100,000 o bobol.

Ond mae’r nifer o achosion i bob 100,000 bellach wedi gostwng i 339.8 yn ôl ffigurau’r ‘gyfradd saith diwrnod’ diweddaraf.

Nod y cynllun yw amddiffyn trigolion Merthyr Tudful, lleihau ymlediad y feirws yn y gymuned, achub bywydau, a rhoi gwell dealltwriaeth o nifer yr achosion yn y gymuned sydd yn rhai heb symptomau.

Prawf i bob preswylydd i “dorri’r cadwyni trosglwyddo”

“Er mwyn cyflawni hyn, rydym am weithio gyda’r cymunedau a’r bobol sy’n byw ym Merthyr i helpu i gadw Merthyr yn ddiogel,” meddai’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething.

“Bydd pob preswylydd yn cael cynnig prawf Covid-19 ailadroddus o ddydd Sadwrn ymlaen, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n dangos symptomau, bydd hyn yn helpu i ddod o hyd i achosion a thorri’r cadwyni trosglwyddo.”

Bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio â’ Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr, a Bwrdd Iechyd Cwm Taf i gynnal y profion.

Ychwanegodd Ysgrifennydd Cymru Simon Hart y byddai’r cynllun hefyd  yn cael ei gefnogi gan 165 o bersonél milwrol.

‘Pawb i chwarae eu rhan’

Yn y cyfamser mae ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Matt Hancock, wedi annog pawb yn ardal Merthyr Tudful i “chwarae eu rhan”.

“Gan adeiladu ar y dysgu o’r cynllun peilot cyntaf i brofi dinas gyfan yn Lerpwl a defnyddio’r profion cyflym diweddaraf, bydd y cynllun peilot hwn ym Merthyr yn darparu dealltwriaeth hanfodol o sut y gallwn gyflwyno profion torfol ymhellach.

“Rwy’n annog pawb ym Merthyr i chwarae eu rhan i reoli’r feirws hwn drwy gael prawf, a thrwy ddilyn cyfyngiadau.”

Bellach mae 100,000 o bobol wedi eu profi yn y cynllun peilot yn Lerpwl a 700 o bobol heb symptomau wedi profi’n bositif.

Bydd y ganolfan brofi gyntaf sy’n rhoi canlyniadau o fewn 30 munud yn agor ym Merthyr ddydd Sadwrn gyda rhagor o safleoedd yn agor yn ddiweddarach.

‘Arf hanfodol’ i leihau’r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu’r newyddion.

“Rwy’n falch o weld y prosiect hwn yn cael ei gyflawni drwy bartneriaeth gydweithredol,” meddai llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd, Andrew RT Davies.

“Mae profion torfol yn arf hanfodol i’n helpu i leihau’r pwysau ar ein hysbytai a gobeithio y bydd yn lleihau’r pwysau a welir yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf, sydd wedi cael ei daro’n arbennig o galed gan heintiau a marwolaethau mewn ysbytai.

“Os bydd yn llwyddiannus, rwy’n gobeithio y bydd gweinidogion yn gweithio’n gyda phartneriaid i sicrhau bod hyn yn cael ei gyflwyno i ardaloedd eraill.”

Er bod Plaid Cymru hefyd wedi croesawu’r datblygiad maen nhw wedi galw am rhagor o gymorth i bobol fydd yn grofod hunanynysu.

“Mae’r profion torfol yn gam cyntaf pwysig”, meddai Delyth Jewell, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ranbarth Dwyrain De Cymru.

“Ond wrth i fwy o achosion gael eu cofnodi, a gofynnir i fwy o bobol hunanynysu, bydd angen cymorth ychwanegol.

“Dyna pam mae Plaid Cymru yn galw am ddynodi ardaloedd o’r fath yn ‘Ardaloedd Cymorth Arbennig Covid.