Mae’r gwaith wedi dechrau ar gynllun a fydd yn darparu cartrefi newydd i bobol hŷn lleol ym Mhen Llŷn.
Mae Adra, darparwr tai gogledd Cymru, yn datblygu 28 o fflatiau pwrpasol ar hen safle adeiladau Cyngor Gwynedd yn Frondeg, Pwllheli.
Mae’r datblygiad yn gynllun ar y cyd rhwng Cyngor Gwynedd ac Adra.
Bydd yr adeilad yn cynnwys lifft, ac fe fydd hefyd fflat penodol ar y llawr gwaelod i rai ag anghenion penodol yn ogystal ag ystafell gymdeithasol.
Ac yn ôl y Cyngor, mae’r datblygiad yn ymateb i’r prinder llety addas i bobol leol 55 oed a hŷn, neu ar gyfer pobol sydd ag anghenion gofal.
“Rydan ni’n falch iawn o weld y gwaith yn dechrau’n swyddogol ar safle Frondeg, Pwllheli er mwyn gallu darparu cartrefi cyfleus ac addas, o ansawdd, i bobl leol sydd eu hangen,” meddai Daniel Parry, Cyfarwyddwr Datblygu Adra.
“Rydan ni fel cwmni yn tyfu ar draws gogledd Cymru gan ddarparu tai, cyfleoedd a chyfrannu at yr economi ac mae pobl Gwynedd yn dal i fod yn flaenoriaeth ac yn bwysig iawn i ni.”
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Gofal Cyngor Gwynedd fod “y datblygiad newydd yma yn gam pwysig iawn ymlaen wrth ymateb i anghenion pobl leol hŷn ym Mhwllheli a’r ardal o gwmpas”.
“Wrth gydweithio efo’n partneriaid yn Adra, mi fyddwn ni’n cynnig darpariaeth newydd a fydd yn gwneud cyfraniad holl bwysig at gynnal a chefnogi annibyniaeth pobl hŷn,” meddai.
“Ac wrth ailddefnyddio safle gwag yng nghanol y dref mi fydd y prosiect yn cynnig hwb sylweddol i economi a bywiogrwydd Pwllheli hefyd.”
“Cynllun ar gyfer yr holl ardal leol”
Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Tai Cyngor Gwynedd ei bod yn “bwysig dweud fod hwn yn gynllun ar gyfer yr holl ardal leol”.
“Efallai fod rhai pobl hŷn yn rhai ardaloedd yn gallu teimlo’n ddigon ynysig ac unig, ac mi fydd y datblygiad newydd yma’n cynnig dewis arall iddyn nhw lle gallan nhw fyw mewn cymuned o bobl yng nghanol y dref,” meddai.
“Mi fydd Cynllun Gosod Lleol yn cael ei lunio ar gyfer y cartrefi hyn, fel bod ymgeiswyr addas sydd â chysylltiad lleol efo ardal Pen Llŷn yn cael blaenoriaeth.
“Felly mi fyddwn i’n annog ymgeiswyr addas i gofrestru efo Tîm Opsiynau Tai Cyngor Gwynedd er mwyn cael eu hystyried am le.”