Mae Aelod o’r Senedd Blaenau Gwent, Alun Davies, wedi datgelu rhagor am yr ataliad ar y galon a brofodd yn gynharach eleni.

Cafodd ei daro’n wael wrth redeg yng nghaeau Llandaf yng Nghaerdydd, a bu’n ddigon ffodus i gael cymorth gan gyfeillion.

Mae’r profiad wedi cael “effaith dwys” arno, meddai, ac mae wedi teimlo “braw” wrth ddychwelyd i’r parc rai misoedd wedi’r digwyddiad.

“Heblaw amdanyn nhw, fyddai popeth ar ben,” meddai am y cyfeillion a’i helpodd.

“Byddai fy mhlant wedi colli’u tad… mae arna’i bron bopeth iddyn nhw,” meddai wedyn.

CPR

Roedd y rheiny a’i helpodd yn y caeau wedi cael gafael ar ddiffibriliwr, ac roedden nhw’n medru cynnal CPR (adfywio cardio-pwlmonaidd).

“Y gwir amdani yw nad yw pobl fel arfer mor lwcus,” meddai Dr Sean Gallagher, a fu’n trin yr Aelod o’r Senedd yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

“Mae’n anarferol cael CPR yn syth, ac ychydig iawn sy’n cael diffibriliwr yn y fan a’r lle, ac mae hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i obeithion pobl o oroesi.”

Mae Alun Davies a’r doctor yn credu y dylid rhoi hyfforddiant CPR i ragor o bobol ledled Cymru.

Gallwch glywed mwy am y stori ar Wales Live ar BBC One Cymru am 22:35 heno, Tachwedd 18.