Mae Syr Keir Starmer wedi cael ei annog i beidio ag adfer chwip y Blaid Lafur i Jeremy Corbyn ar ôl i banel disgyblu ddileu gwaharddiad cyn-arweinydd y blaid.
Cafodd Jeremy Corbyn ei wahardd o’r Blaid Lafur fis diwethaf yn dilyn ei ymateb i adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn dweud bod y blaid wedi torri’r gyfraith wrth ymdrin â chwynion gwrth-Semitiaeth.
Honnodd fod maint problem wrth-Semitiaeth y blaid wedi cael ei orbwysleisio am resymau gwleidyddol gan wrthwynebwyr y tu mewn a’r tu allan i Lafur, ynghyd â’r cyfryngau.
Ond ceisiodd egluro ei sylwadau yn ddiweddarach, gan ddweud nad yw pryderon am wrth-Semitiaeth yn cael eu “gorliwio” na’u “gorddatgan”.
Cafodd ei adfer fel aelod dair wythnos yn ddiweddarach yn sgil adroddiad damniol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) ar wrth-Semitiaeth.
Dydy Syr Keir Starmer ddim wedi penderfynu eto a ddylid adfer y chwip ond dywedodd fod penderfyniad y Pwyllgor Gweithredol Cenedlaethol i adfer ei aelodaeth yn “ddiwrnod poenus arall i’r gymuned Iddewig”.
Mynnodd cynghreiriaid Jeremy Corbyn y byddai’r chwip yn cael ei hadfer iddo’n awtomatig ac y byddai’n cael ei aildderbyn i’r Blaid Lafur Seneddol.
Ond mae ffigyrau blaenllaw’r blaid yn dweud nad yw hynny’n wir ac mai penderfyniad i arweinydd y blaid Syr Keir Starmer a’r prif chwip Nick Brown ydyw.
Y Blaid Lafur “heb ddysgu dim byd o gwbl”
Dywedodd Marie van der Zyl, llywydd Bwrdd Dirprwyon Iddewon Prydeinig, fod yn rhaid i Syr Keir Starmer wrthod adfer y chwip iddo.
Dywedodd fod y penderfyniad i adfer Jeremy Corbyn yn dangos nad yw’r Blaid Lafur “wedi dysgu dim byd o gwbl.”
Dywedodd wrth raglen Today BBC Radio 4 fod achos y cyn-arweinydd wedi’i ruthro a’i farnu gan banel gwleidyddol o’i gefnogwyr.
“Rwy’n gobeithio y bore ’ma y bydd Keir Starmer wedi myfyrio ar yr hyn sydd wedi digwydd ddoe ac yn ei gwneud yn glir ei fod yn gwrthod adfer y chwip,” meddai.
“Canlyniad toredig gan system sydd wedi torri”
Ysgogodd penderfyniad y Pwyllgor Gweithredol Cenedlaethol i adfer Jeremy Corbyn wylltineb gan aelodau seneddol Llafur ac arweinwyr Iddewig.
Ac mae wedi dod i’r amlwg y gallai’r cyn-weinidog, y Fonesig Margaret Hodge, sy’n Iddewig, adael y blaid.
Dywedodd nos Fawrth (Tachwedd 17) nad oedd hi’n “deall” pam ei bod yn dderbyniol i Jeremy Corbyn “fod yn AS Llafur os yw’n credu bod gwrth-Semitiaeth wedi’i orliwio ac yn ymosodiad gwleidyddol”.
“Mae hwn yn ganlyniad toredig gan system sydd wedi torri,” meddai ar Twitter.
Dywedodd y Mudiad Llafur Iddewig ei bod yn ymddangos bod achos cyn-arweinydd y blaid wedi’i “hwyluso” gan “bwyllgor gwleidyddol sy’n cyd-fynd â Corbyn”.
“Diwrnod poenus arall i’r gymuned Iddewig”
“Dw i’n gwybod bod hwn wedi bod yn ddiwrnod poenus arall i’r gymuned Iddewig a’r aelodau Llafur hynny sydd wedi ymladd mor galed i fynd i’r afael â gwrth-Semitiaeth,” meddai Syr Keir Starmer.
“Roedd datganiad Jeremy Corbyn mewn ymateb i adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn anghywir ac yn tynnu sylw’n llwyr oddi wrth adroddiad a nododd ymddygiad anghyfreithlon wrth fynd i’r afael â hiliaeth o fewn y Blaid Lafur.
“Dylai hyn gywilyddio pob un ohonom.
“Ni fyddaf yn caniatáu ffocws ar un unigolyn i’n hatal rhag gwneud y gwaith hanfodol o fynd i’r afael â gwrth-Semitiaeth.
“Pan sefais fel arweinydd y Blaid Lafur, roeddwn yn glir mai fy mlaenoriaeth gyntaf fyddai mynd at wraidd gwrth-Semitiaeth.
“Mae hynny yn dal yn wir.
“Rwy’n gwybod fod gennym ffordd bell i fynd, ond rwy’n gwbl benderfynol o wneud y Blaid Lafur yn lle diogel i bobol Iddewig.
“Dyma fy ymrwymiad a’m haddewid i’n plaid, y gymuned Iddewig a phobol Prydain.”
“Penderfyniad cywir a theg”
Fodd bynnag, dywed, Len McCluskey, ysgrifennydd cyffredinol Unite, mai aildderbyn y cyn-arweinydd yw’r “penderfyniad cywir a theg”.
“Rwy’n falch o fod wedi cael fy adfer yn y Blaid Lafur a hoffwn ddiolch i aelodau’r blaid, undebwyr llafur a phawb sydd wedi cynnig undod,” meddai Jeremy Corbyn ar Twitter.
“Rhaid i’n mudiad ddod at ei gilydd yn awr i wrthwynebu a threchu’r llywodraeth Geidwadol hynod niweidiol hon.”