Mae sylfaenydd y cynllun olrhain cysylltiadau wedi cael neges gan ei chwmni ei hun yn ei chynghori i hunanynysu.

Y Farwnes Dido Hardin sy’n arwain rhaglen y Gwasanaeth Iechyd sy’n anfon negeseuon at bobol allai fod wedi dod i gysylltiad â phobol eraill sydd wedi’u heintio â’r coronafeirws.

Mewn neges ar Twitter, sy’n cynnwys llun o’r neges a gafodd ei hanfon ati, mae’n dweud bod yn rhaid iddi hunanynysu tan ddiwedd y dydd ar Dachwedd 26.

“Does dim byd tebyg i brofiad personol o’ch cynnyrch eich hun,” meddai, cyn dweud bod ganddi “oriau o Zoom” o’i blaen.

Daw’r neges ar ôl i’w gŵr, yr aelod seneddol Ceidwadol John Penrose, hefyd gael neges yn gofyn iddo hunanynysu.

Bydd Boris Johnson, prif weinidog Prydain, yn cymryd rhan mewn Sesiwn Holi’r Prif Weinidog o bell heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 18) ar ôl iddo yntau ddod i gysylltiad â’r aelod seneddol Lee Anderson, sydd wedi profi’n bositif ar gyfer y coronafeirws.