Mae’r prif weinidog Mark Drakeford wedi amlinellu cynlluniau i sicrhau y gall pobol Cymru bleidleisio’n ddiogel yn etholiadau’r Senedd yn 2021, ond mae’n bosib y caiff yr etholiad ei ohirio.
Daw hyn ar ôl i Lywodraeth yr Alban gyhoeddi y gallai etholiad Holyrood gael ei ohirio hefyd.
Sefydlodd Mark Drakeford y Grŵp Cynllunio Etholiadau ym mis Mehefin i ystyried effaith y coronafeirws ac, yn benodol, pa addasiadau deddfwriaethol y gallai fod angen eu gwneud o ganlyniad.
Mae’r grŵp wedi cytuno ar amryw o fesurau i wella hyblygrwydd gweithrediadau etholiadol, gan gynnwys:
- Mesurau i annog pleidleiswyr sy’n agored i niwed ac eraill i ystyried gwneud cais am bleidlais bost ac i wneud cais yn gynnar os oes modd.
- Rhoi mwy o hyblygrwydd o ran enwebu ymgeiswyr, yn ogystal ag o ran pleidleisio drwy’r post a thrwy ddirprwy.
- Mesurau i sicrhau bod gorsafoedd pleidleisio a lleoliadau cyfrif yn gweithredu’n ddiogel.
- Sicrhau nad yw rheoliadau’r coronafeirws yn llesteirio’r pleidleisio.
Mae Llywodraeth Cymru yn cynllunio rhag ofn y bydd pandemig y coronafeirws yn fygythiad mor ddifrifol fel na fydd hi’n ddiogel cynnal yr etholiad ym mis Mai.
Mae paratoadau ar y gweill i greu Bil drafft a fydd yn galluogi Llywydd y Senedd i ohirio’r etholiad am hyd at chwe mis os bydd angen.
Byddai hynny’n galluogi’r gweinidogion i gyflwyno’r ddeddfwriaeth ofynnol gerbron y Senedd ym mis Ionawr.
‘Bwriad pendant’ i gynnal yr etholiad
“Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i nodi unwaith eto mai bwriad pendant y Llywodraeth yw y dylid cynnal etholiad y Senedd ar Fai 6 y flwyddyn nesaf,” meddai Mark Drakeford wrth annerch y Senedd.
“Rwy’n credu bod rhaid inni edrych ar bob opsiwn er mwyn galluogi pobol i ddefnyddio’u hawl ddemocrataidd yn wyneb y coronafeirws.
“Mae bwriad i gynnal llawer o waith cyfathrebu i annog pobol i bleidleisio drwy’r post, ac i bwysleisio y bydd gorsafoedd pleidleisio yn ddiogel o ran Covid.
“Hoffwn ddiolch eto i aelodau’r Grŵp Cynllunio Etholiadau am eu gwaith yn ein helpu i baratoi ar gyfer etholiadau’r Senedd y flwyddyn nesaf.
“Gadewch inni weithio gyda’n gilydd nawr i sicrhau bod pobol Cymru, gan gynnwys y rhai sydd newydd gael yr hawl i bleidleisio, yn cael defnyddio’u hawl ddemocrataidd yn ddiogel.”