Mae’r Mwmbwls wedi gweld y cynnydd cyfartalog mwyaf ym mhrisiau tai nag unrhyw dref arall ar lan y môr yng ngwledydd Prydain, yn ôl arolwg newydd.

Mae pris cyfartalog tai yn yr ardal wedi codi 47% ers 2015 – neu £110,537 yn nhermau arian, meddai Rightmove.

Mae’n debyg bod datblygiadau sy’n cynnwys bwytai newydd a chanolfan siopa, yn ogystal â’r traeth, wedi cyfrannu at gynnydd ym mhrisiau tai.

Gyda chysylltiadau da rhwng Abertawe ac ardaloedd eraill, a mwy o bobol yn gweithio o gartref yn ystod y coronafeirws, mae mwy o bobol bellach yn symud o ddinasoedd mawr fel Llundain a Bryste i fyw yn yr ardal.

£344,832 yw pris cychwynnol tai ar gyfartaledd – sydd lai na thraean pris cyfartalog yr ardal ddrutaf yng ngwledydd Prydain, sef Poole yn Swydd Dorset, lle mai £1.2m yw’r pris cyfartalog gan fod enwogion yn prynu tai yno.

Mae pris cyfartalog y Mwmbwls, yn y cyfamser, bron £130,000 yn uwch na gweddill Cymru a £22,000 yn uwch nag yn unman arall yng ngwledydd Prydain.

‘Breuddwyd’

“Mae adleoli a symud i ardal arfordirol yn freuddwyd i nifer o rai sy’n chwilio am gartrefi ac mae’n rhaid dweud bod y cyfnod clo wedi dwysáu’r dyhead hwnnw i fyw ger y môr i rai pobol,” meddai Tim Bannister, cyfarwyddwr data eiddo Rightmove.

“Mae eiddo mewn trefi ar lan y môr yn dod ar gost uchel fel arfer, ond yr hyn sy’n ddiddorol dros ben am y rhestr o’r prisiau arfordirol uchaf yw fod yna ystod eithaf eang o bwyntiau prisiau.

“Fe fu’r Mwmbwls yn gyrchfan boblogaidd ymhlith pobol ar eu gwyliau yng ngwledydd Prydain ac felly mae’n rhesymol y byddai’r rhai sy’n chwilio am gartrefi yn ei harchwilio ar gyfer ffics o’r tywod a’r môr drwy gydol y flwyddyn.”

Ymateb lleol

Yn ôl Ben Davies, rheolwr gyfarwyddwr asiantaeth dai Belvoir yn y Mwmbwls, mae pobol wedi bod eisiau byw yn yr ardal erioed.

“Yn hen bentref pysgota Fictoriannaidd, mae gan y Mwmbwls ei hunaniaeth ei hun yn sicr,” meddai.

“Mae’n gyrchfan ynddi ei hun ac rydym wedi gweld dyhead enfawr erioed i fyw yma.

“Mae’r Mwmbwls ar gyrion Bae Abertawe i lawr yr arfordir o ail ddinas Cymru, felly mae gyda ni fynediad hawdd at yr holl gyfleusterau sydd gan ddinas i’w cynnig heb orfod bod yn rhan ohoni.

“Mae ein harfordir yn rhagorol hefyd, ac mae hynny’n ddeniadol dros ben i bobol, a’r Mwmbwls yw porth y Gŵyr.

“Mae’r Mwmbwls wedi gweld llawer o ddatblygiadau dros y blynyddoedd diwethaf hefyd.

“Mae Oyster Wharf yn ddatblygiad newydd sbon sydd wedi creu plaza Ganolforol yn edrych dros y traeth.

“Ond mae’r dref wedi cadw ei hud ac fe gewch chi lawer o fwytai a siopau annibynnol, bariau a delis ar lan y môr yma.

“Yr hyn sydd o blaid y Mwmbwls hefyd yw y gallwch chi gael tipyn mwy am eich arian yma, er gwaetha’r ffaith fod prisiau’n codi, nag mewn llefydd fel Cernyw a Dyfnaint.

“Mae’n boblogaidd ymhlith pobol sy’n gweithio yn Llundain am rywfaint o’r wythnos, gan fod cyswllt trenau uniongyrchol o Abertawe i Paddington.

“Eleni yn enwedig, rydyn ni wedi gweld cynnydd arwyddocaol mewn pryniant gan bobol yn Llundain a Bryste.

“Nawr fod pobol yn gallu gweithio o bell, dw i’n credu y byddai’n well ganddyn nhw weld y môr tra’n gweithio na blociau o goncrid.”

Mae Aberafan ger Port Talbot yn gydradd bumed ar y rhestr, gyda chynnydd o 42%, neu £136,710 a Benllech ym Môn yn ddegfed (£289,390, 40%).