Mae mwyafrif yr athrawon yng ngwledydd Prydain wedi gweithio mewn ysgol gyda phlant oedd eisoes yn ddigartref neu a ddaeth yn ddigartref yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn ôl arolwg.

Mae disgyblion sy’n ddigartref, neu sy’n byw mewn tai safon isel, yn cyrraedd yr ysgol yn llwglyd, wedi blino ac mewn dillad brwnt, tra bod eraill yn colli dosbarthiadau’n gyfangwbl, yn ôl adroddiad gan Shelter.

Mae’r elusen ddigartrefedd wedi rhybuddio y gallai’r sefyllfa waethygu i ddegau o filoedd o blant yng ngwledydd Prydain oherwydd y pandemig, gan fod data’r arolwg wedi’i gasglu cyn y pandemig.

Mae mwy na hanner (56%) o athrawon yng ngwledydd Prydain wedi gweithio mewn ysgol gyda phlant a oedd, neu a ddaeth, yn ddigartref ac a fu’n gorfod byw mewn tai dros dro yn ystod y tair blynedd diwethaf.

O’r staff a oedd wedi gweithio gyda’r plant hyn, dywedodd 94% fod cyrraedd y dosbarth wedi blino yn broblem i ddisgyblion yn eu hysgol a oedd yn byw mewn tai gwael neu’n ddigartref.

Fe wnaeth yr arolwg barn o 1,507 o athrawon ym mis Chwefror a Mawrth ddarganfod fod 89% wedi dweud bod cyrraedd yr ysgol mewn dillad heb eu golchi neu ddillad brwnt yn broblem i’r disgyblion hyn, tra bod 87% wedi dweud eu bod nhw’n dod i mewn yn llwglyd.

Dywedodd bron i naw o bob deg (88%) o athrawon a oedd â phrofiad o blant a oedd yn ddigartref neu’n byw mewn tai gwael yn eu hysgol fod colli dosbarthiadau neu ddyddiau ysgol yn broblem i’r plant hyn.

“Mae plant digartref dan anfantais cyn i’r diwrnod ysgol ddechrau hyd yn oed,” meddai Dani Worthington, pennaeth ysgol yng Ngogledd Swydd Efrog.

“Yn fy 15 mlynedd o addysgu, rwy’ wedi gweld effaith ddinistriol canlyniad digartrefedd ar addysg droeon.

“Pan nad oes gan deuluoedd fynediad i’r pethau sylfaenol fel peiriant golchi, rydym yn golchi eu gwisgoedd yn yr ysgol yn y pen draw.”

“Sgandal genedlaethol”

“Mae hon yn sgandal genedlaethol – a heb weithredu, efallai na fydd y niwed ychwanegol sy’n cael ei wneud i blant digartref o ganlyniad i’r pandemig byth yn cael ei ddadwneud,” meddai Polly Neate, prif weithredwr Shelter.

“Rhaid i blant digartref beidio â dioddef yr argyfwng hwn.

“Dydyn ni ddim yn gwybod o hyd beth fydd effaith hirdymor y pandemig ar y genhedlaeth hon o blant.

“Ond am nawr, mae Shelter yma i gefnogi a rhoi gobaith i’r teuluoedd sydd ein hangen fwyaf.”