Mae Donald Trump, Arlywydd yr Unol Daleithiau, wedi diswyddo swyddog etholiadau wrth iddo barhau i wneud honiadau am dwyll ar ôl colli’r etholiad arlywyddol.

Daw’r newyddion am Christopher Krebs er i’r awdurdodau fynnu bod y canlyniadau ymhlith y rhai mwyaf sicr erioed.

Mae Trump yn dal i wrthod derbyn buddugoliaeth y Democrat Joe Biden, ac mae wedi dechrau’r broses o ddiswyddo staff mae’n eu hystyried yn anffyddlon.

Cafodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn Mark Esper ei ddiswyddo’r wythnos ddiwethaf, wrth i’r rhai sy’n ffyddlon i Trump gael eu dyrchafu.

Roedd Christopher Krebs wedi bod yn bennaeth ar uned CISA ers 2016 yn dilyn ymyrraeth honedig gan Rwsia yng nghanlyniad etholiad arlywyddol 2016 pan ddaeth Trump i rym.

Mae e wedi’i ganmol yn eang am ei waith yn arwain yr uned.

Ond dros y dyddiau diwethaf, fe fu’n anghytuno â sylwadau’r arlywydd am annilysrwydd yr etholiad, gan dynnu sylw at farn 59 o arbenigwyr nad oes tystiolaeth o dwyll.

Dydy CISA ddim wedi gwneud sylw.