Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi ailddatgan eu cefnogaeth i Ddiwygio Etholiadol yng Nghymru.

Mae’r blaid yn galw am ganiatáu i gynghorau lleol newid o’r system Cyntaf i’r Felin i’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy.

Dywed Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, y byddai hyn yn rhoi pŵer i bleidleiswyr.

“Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi galw ers tro am system bleidleisio wirioneddol ddemocrataidd sy’n rhoi’r pŵer mwyaf a chyfartal i bleidleiswyr,” meddai.

“Byddai hyn yn rhoi siambrau cyngor cynrychioliadol i bobol Cymru sy’n adlewyrchu’r ffordd maen nhw’n pleidleisio.

“Mae system y Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy yn system syml, caiff ei defnyddio mewn seneddau ledled y byd yn ogystal â chan glybiau a chymdeithasau chwaraeon i ethol cadeiryddion a chapteiniaid oherwydd ei symlrwydd a’i thegwch.

“Rwy’n credu’n gryf fod yr amser wedi dod ar gyfer newid, a bydd hyn yn gwneud etholiadau’n symlach ac yn decach.”

Gostwng oedran pleidleisio etholiadau cynghorau

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd yn galw am ostwng yr oedran pleidleisio ar gyfer etholiadau cynghorau fel sydd eisoes wedi digwydd gydag etholiadau’r Senedd.

“Mae ymestyn yr oed pleidleisio i gynnwys pobol ifanc 16 ac 17 oed nid yn unig yn rhesymegol ond yn deg,” meddai Cadan ap Tomos, llefarydd diwygio gwleidyddol a chyfansoddiadol y blaid.

“O’r flwyddyn nesaf, bydd pobol ifanc 16 ac 17 oed yn gallu pleidleisio yn etholiadau’r Senedd.

“Mae’n iawn fod hyn yn cael ei ymestyn i gynnwys etholiadau cynghorau hefyd.

“Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi cefnogi’r cynigion hyn ers tro byd.

“Mae’n bryd yn awr i’n Senedd eu cefnogi, er mwyn cryfhau ein democratiaeth.”