Er bod Llywodraeth Cymru eto i amlinellu eu cynlluniau ar gyfer y Nadolig, fydd hynny ddim yn effeithio ar drefniadau Siôn Corn eleni.
Gan nad oedd modd i Menter Cwm Gwendraeth Elli gynnal eu groto arferol eleni, penderfynodd y trefnwyr gysylltu â Siôn Corn i roi trefniadau ychydig yn wahanol ar waith i wneud yn siŵr na fyddai plant Cymru yn methu allan ar y cyfle i gyfarfod â Siôn Corn.
Eglurodd Aled Evans, Swyddog Plant a Phobol Ifanc Menter Cwm Gwendraeth Elli, ei fod wedi bod yn brysur yn trefnu’r digwyddiad arbennig gyda chorachod Siôn Corn i ganiatáu i’r groto fynd yn ei blaen dros y we.
“Yn flynyddol, ry’n ni wedi bod yn cynnal groto yn y cwtsh sydd drws nesa’ i swyddfeydd Menter Cwm Gwendraeth Elli ym Mhontyberem, er mwyn i blant gael cwrdd a sgwrsio â Siôn Corn drwy’r Gymraeg,” meddai wrth golwg360.
“Dan yr amgylchiadau, fe benderfynom ni fynd ati i weld a oedd modd i ni gynnal y digwyddiad mewn ffordd arall.
“Ry’n ni wedi bod mewn trafodaethau gyda’r mentrau eraill, a Siôn Corn wrth gwrs, ac mae pawb yn awyddus i’r digwyddiad fynd yn ei flaen dros y we.”
Oherwydd prysurdeb Siôn Corn adeg yma’r flwyddyn, bydd gan bob teulu slot o ddeg munud, ac mae modd i bobol o bob cwr o Gymru, ac nid dim ond o ardal Cwm Gwendraaeth, archebu llefydd drwy gysylltu â Menter Cwm Gwendraeth Elli.
‘Cadw ysbryd y Nadolig yn fyw’
Mae’r groto rhithiol yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau gan Fenter Cwm Gwendraeth Elli.
Yn ddiweddar bu’r clocsiwr Tudur Phillips yn cynnal sesiynau clocsio rhithiol, ac mae llefydd ar gael ar gyfer parti Nadolig Siani Sionc sydd hefyd i’w gynnal ar-lein.
“Gan na fydd cyngherddau Nadolig na nosweithiau carolau eleni, ry’n ni’n trio ein gorau i weld beth mae modd i ni’i gynnig er mwyn cadw ysbryd y Nadolig yn fyw,” ychwanegodd Aled Evans.