Mae datganoli “wedi ffynnu” yng Nghymru o ganlyniad i Lywodraeth Lafur y 1990au, yn ôl Mark Drakeford.

Daw sylwadau prif weinidog Cymru wrth ymateb i gwestiwn gan Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, ar ôl i Boris Johnson, prif weinidog Prydain, ddweud wrth aelodau seneddol Ceidwadol fod datganoli wedi bod yn “drychineb” ac yn “gamgymeriad mwyaf Tony Blair”.

Wrth godi’r mater yn y Senedd, dywedodd Adam Price fod modd “gwyrdroi rhesymeg” Boris Johnson, gan awgrymu mai “oherwydd fod San Steffan wedi bod mor drychinebus i Gymru mae’r Senedd hon yn bod”.

Ond fe wnaeth Mark Drakeford wfftio hynny.

“Nid oherwydd methiant llywodraeth Boris Johnson mae’r Senedd yn bod ond yn hytrach, oherwydd llwyddiant Llywodraeth Lafur wrth sicrhau bod datganoli’n digwydd yn y lle cyntaf,” meddai.

“Mae datganoli’n ffynnu pan fo Llywodraeth Lafur i’w gefnogi, ac mae datganoli’n dod o dan y math o bwysau mae e oddi tano nawr pan fo gyda ni Lywodraeth Geidwadol, a lle’r ydych chi’n crafu wyneb y Blaid Geidwadol ac mae ei holl atgasedd tuag at ddatganoli’n codi i’r wyneb unwaith eto.

“Dyna ddigwyddodd ddoe, pan oedd y prif weinidog yn meddwl y gallai ddangos ei hun o flaen ychydig o aelodau seneddol Ceidwadol o ogledd Lloegr.

‘Trychineb – mae pobol Cymru’n haeddu gwell’

Wrth daro’n ôl, mae Paul Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, yn dweud bod cyfnod Llafur wrth y llyw yng Nghymru wedi bod yn “drychineb”.

“Nid datganoli sydd wedi bod yn drychineb,” meddai.

“Ugain mlynedd a mwy o lywodraethau dan arweiniad Llafur sydd wedi bod yn drychineb i ddatganoli yng Nghymru.

“Mae pobol Cymru’n haeddu gwell.

“Yn hytrach na gwneud eu gwaith o sicrhau bod ein heconomi a’n hiechyd a’n haddysg y gorau y gallan nhw fod, fe fu gan Lywodraeth Cymru obsesiwn â dadlau o blaid rhagor o bwerau.”