Mae Comisiynydd y Gymraeg yn dathlu 15 mlynedd ers lansio swigen Iaith Gwaith, gyda digwyddiadau pellach yn cael eu cynnal drwy gydol y mis i nodi’r garreg filltir nodedig.
Mae llwyddiant y cynllun wedi ysbrydoli y Bòrd na Gàidhlig (Bwrdd yr Iaith Aeleg yn yr Alban) i lansio eu swigen adnabod eu hunain.
Pe bai’r swigen ar gyfer yr iaith Aeleg yr un mor llwyddiannus â’r swigen Gymraeg, does dim rheswm pam na allai gwledydd eraill fabwysiadau’r un cynllun, yn ôl Brian Ó hEadhra, arweinydd y prosiect yn yr Alban.
“Swigen oren Iaith Gwaith wedi hen ennill ei phlwyf”
“Mae swigen oren Iaith Gwaith wedi hen ennill ei phlwyf yng Nghymru, ac yn adnodd defnyddiol i sefydliadau cyhoeddus, busnesau ac elusennau i ddangos i gwsmeriaid pwy all siarad Cymraeg,” meddai Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg.
Ers lansio mewn siop gwerthu nwyddau tai Leeks yn Cross Hands bymtheg mlynedd yn ôl, mae’r swigen wedi mynd o nerth i nerth.
“Yn y blynyddoedd diweddar, mae ein swigen yng Nghymru wedi datblygu, ac yn cael ei defnyddio mewn amryw o ffyrdd newydd yn amrywio o gwmni peirianneg yn rhoi fersiwn ‘finyl’ ar hetiau caled, i fyrddau iechyd yn creu fersiynau magned i roi ar welyau er mwyn dangos pa gleifion sy’n dymuno derbyn gofal yn y Gymraeg,” meddai.
“Bob amser yn dod yn ôl at y swigen oren Gymraeg”
Ym mis Hydref, fel lansiodd y Bòrd na Gàidhlig eu swigen las, gyda’r nod o annog siaradwyr Gaeleg yr Alban a thu hwnt i adael i bobol wybod eu bod yn gallu siarad yr iaith.
“Roedden ni wedi bod yn ystyried creu math o fathodyn adnabod ers sawl blwyddyn,” meddai Brian Ó hEadhra.
“Wrth edrych yn ôl ar rai o’r ymdrechion yma yn yr Alban ac ar beth oedd yn cael ei wneud yn Iwerddon ac yng Nghymru, roedden ni bob amser yn dod yn ôl at y swigen oren Gymreig.
“Mae o mor syml ond yn hynod effeithiol.
“Dydi Gaeleg ddim yn iaith mor eang â’r Gymraeg yng Nghymru, felly dydi hi ddim bob amser mor amlwg i bobol wybod ble mae modd siarad yr iaith.
“Felly, dyna pam mae hyn mor bwysig.”
“Dim ond y cychwyn yw hyn”
Y nod yw gwreiddio’r bathodyn i mewn i’r gymuned – i’r siopau, busnesau ac ysgolion.
Dywed fod hynny’n dasg anodd, sydd yn fwy anodd fyth yn sgil yr amgylchiadau presennol.
“Mae ‘na lot i’w wneud, a dim ond y cychwyn yw hyn o’i gymharu â Chymru, sydd yn dathlu llwyddiant y bathodyn dros bymtheg mlynedd.”
Dywed fod rhai trafodaethau eisoes wedi eu cynnal i greu cynllun tebyg mewn gwledydd ieithoedd lleiafrifol efallai.
“Efallai y buasai’n gallu bod yn fathodyn adnabod iaith Geltaidd,” eglura.
“Os ydi’r bathodyn yn gweithio i ni yma dros y blynyddoedd ac eisoes wedi profi i weithio’n effeithiol yng Nghymru, does dim rheswm pam na allai weithio mewn gwledydd eraill.
“Efallai mai dyna fydd y cam nesaf!”
Cydweithio am y tro cyntaf
“Mi oeddwn yn hynod o falch o gael ymuno yn y lansiad yn Glasgow fis Hydref y llynedd, i nodi cychwyn ar gyfnod cyffrous yn hanes y bathodyn,” meddai Aled Roberts.
“Dyma’r tro cyntaf i ni weithio â iaith leiafrifol arall, a rhannu ein cynllun gyda nhw, a gobeithio y gallwn gydweithio a rhannu gwaith celf ein deunyddiau gyda gwledydd eraill yn y dyfodol.
“Rwy’n gobeithio y bydd y swigen las, fel y swigen oren, yn datblygu’n adnodd pwysig yn yr Alban ac yn un ffordd o’i gwneud hi’n haws i’r cyhoedd gael siarad yr iaith yn eu bywydau bob dydd.”