Mae Plaid Cymru yn galw am fesurau cymorth ychwanegol ar gyfer ardaloedd yn y de sydd â chyfraddau uchel o’r coronafeirws.
Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i greu “Ardaloedd Cymorth Arbennig Covid” yn y de.
Byddai’r ardaloedd yn gymwys i gael mesurau cymorth ychwanegol fel grant hunanynysu ychwanegol ac adnoddau profion ac olrhain ychwanegol.
Daw hyn wedi parhad mewn cyfraddau uchel o Covid-19 mewn rhannau o’r de fel Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Blaenau Gwent.
Mae ymchwil ddiweddar hefyd yn awgrymu y gallai’r feirws effeithio’n ddifrifol ar gymunedau ôl-ddiwydiannol.
‘Angen dull gweithredu gwahanol mewn rhai rhannau o’r de’
“Mae angen cymorth ychwanegol i’r rhai sy’n glinigol fregus, na allant weithio gartref, ond sy’n byw ac yn gweithio mewn ardaloedd lle mae Covid-19 yn gyffredin iawn,” meddai Leanne Wood, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros y Rhondda.
“Mae rhannau o’n hen ardaloedd diwydiannol sydd yn parhau a chyfraddau uchel o’r haint yn cynnwys fy etholaeth i.
“Ni ddylid rhoi pobol nad ydynt yn gallu gweithio gartref ond sy’n glinigol fregus yn y sefyllfa lle mae’n rhaid iddynt ddewis rhwng peryglu eu hiechyd neu roi bwyd ar y bwrdd.
“Mae mesurau ychwanegol y gellir eu cymryd i helpu pawb yn y rhanbarth – gellid rhoi blaenoriaeth awtomatig i ardaloedd cymorth arbennig ar gyfer rhaglenni profi torfol a chyflwyno brechlynnau’n gynnar.
“Gellid cynyddu grantiau hunan-ynysu i £800 er mwyn sicrhau y gallai pobl sy’n glinigol fregus fforddio aros gartref a chadw’n ddiogel.
“Mae’n amlwg o’r lefelau styfnig o uchel o’r haint fod angen dull gweithredu gwahanol mewn rhai rhannau o’r de, a gallai cynnig Plaid Cymru nid yn unig helpu i reoli cyfraddau heintio, ond helpu i gadw ein pobl fwyaf bregus yn ddiogel hefyd.”