Mae gan feddygon Cymru “ganllawiau clir” i’w cydymffurfio â nhw wrth drin â chleifion yn ystod yr argyfwng coronafeirws.
Daw sylw Prif Weithredwr GIG Cymru, Dr Andrew Goodall, wrth ateb cwestiwn am driniaeth pobol hŷn, yn ystod y gynhadledd i’r wasg y prynhawn yma.
Yn siarad gyda Golwg ar ddechrau’r mis, mi ddywedodd Helena Herklots, y Comisiynydd Pobol Hŷn, bod pobol oedrannus wedi teimlo pwysau i gydsynio i DNACPR ar ddechrau’r argyfwng.
Golyga DNACPR “do not attempt cardiopulmonary resuscitation” – “na cheisier dadebru cardio-anadlol”.
Mae yn gyfarwyddyd i feddygon beidio â cheisio ailgychwyn calon – neu broses anadlu – claf sydd yn ddifrifol wael.
Yr awgrym yw bod y cleifion wedi teimlo’r pwysau yma am eu bod yn hŷn, yn fwy bregus, ac felly’n teimlo’u bod yn gosod straen diangen ar yr ymdrech genedlaethol yn erbyn covid.
Wrth drafod y mater yma brynhawn heddiw pwysleisiodd Andrew Goodall bod gan feddygon “ganllawiau clir” y mae’n rhaid cydymffurfio â nhw.
“Roedd yna gwpwl o ddigwyddiadau yn gynt [yn yr argyfwng] lle’r oedd yna gyfathrebu anffodus a ddigwyddodd ar y lefel leol,” meddai Dr Goodall wrth golwg360.
“A wnes i ymateb i hynny ar y pryd gan ddweud nad yw hynny’n adlewyrchu polisi cenedlaethol i ni yng Nghymru.
“Dw i eisiau nodi yn glir … bod yna ganllawiau clir ynghylch yr hyn sydd yn cael ei ystyried yn briodol yng nghyd-destun cymorth.”
Sylwadau’r Comisiynydd
Yn siarad â Golwg ar ddechrau’r mis, awgrymodd y Comisiynydd Pobol Hŷn yn awgrymu mae meddygon oedd yn gyfrifol am osod y pwysau yma ar bobol hŷn.
“Un o’r pethau a gododd yn fuan [yn yr argyfwng] oedd bod rhai pobol hyn yn teimlo pwysau i gytuno i DNACPR,” meddai Heléna Herklots.
“Ac roedd hynny’n gwneud iddyn nhw deimlo nad oedd eu bywydau yn cael eu hystyried mor werthfawr â bywydau eraill. Roedd yn gwneud pobol yn ofnus.
“A chlywsom am rai achosion lle’r oedd perthnasau wedi gweld DNACPR wedi’i ysgrifennu ar nodiadau ysbyty… ond doedden nhw ddim yn teimlo bod sgwrs ddechau wedi’i chynnal.”
Yn siarad heddiw, dywedodd Andrew Goodall ei fod yn “bwysig iawn ein bod yn cydnabod yr angen i helpu pobol hŷn” yn ystod yr argyfwng covid-19 – boed mewn ysbyty, cartref gofal, neu yn y gymuned.