Roedd y rhestr ymgeiswyr a gyhoeddodd Plaid Cymru bythefnos yn ôl yn wallus, yn ôl adroddiad.

Yn etholiad y Senedd flwyddyn nesa’ bydd gan bob plaid ymgeiswyr yn etholaethau Cymru, ac yn ei rhanbarthau.

A rhestr un o’r rhanbarthau yma, Rhanbarth Gorllewin De Cymru, oedd yn wallus â’r Blaid, yn ôl adroddiad gan The Western Mail.

Roedd Luke Fletcher, yn wreiddiol, wedi ei osod ar frig y rhestr, ond bellach – yn sgil ymyrraeth Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol y Blaid – mae Sioned Williams wedi’i gosod yno.

Mae’r gwall yn deillio’n rhannol, mae’n debyg, o’r ffaith bod enw Tim Thomas wedi ymddangos ar y papur pleidleisio (aelodau sydd yn dewis yr ymgeiswyr yma).

Mae’r gŵr hwnnw, sydd yn gynghorydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, bellach wedi’i ddiarddel o’r blaid.

Ymateb y Blaid

Mae adroddiad The Western Mail yn adrodd bod y Blaid wedi ymateb â’r canlynol:

“Corff sydd wedi ei ethol yn ddemocrataidd yw’r Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol, ac felly hwnnw yw’r fforwm cywir ar gyfer delio â materion a gododd yn gysylltiedig â rhanbarth Gorllewin De Cymru.

“Deliwyd â’r mater yn gyflym ac yn y ffordd briodol, ac mae’r Blaid yn ddiolchgar i’r holl ymgeiswyr a gymerodd rhan am eu hamynedd a’u proffesiynoldeb wrth aros am y canlyniad terfynol.”

Wnaeth golwg360 adrodd ar ddechrau’r mis ei bod yn deall bod problemau technegol hefyd wedi amharu ar y broses pleidleisio mewn ambell ardal.