Mae merch 18 oed wedi marw ar ôl digwyddiad mewn neuaddau preswyl yng Nghaerdydd.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Lys Talybont yn ardal Cathays ddydd Sadwrn, 14 Tachwedd.

Bu’r fyfyrwraig farw ychydig yn nes ymlaen yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.

Mae ei marwolaeth yn dilyn marwolaeth dyn 25 oed yn Nhongwynlais ddydd Sul, Tachwedd 15.

Nid yw hi’n glir eto a oes cysylltiad rhwng y ddau ddigwyddiad.

Fodd bynnag, mae’r Heddlu yn cadw meddwl agored ac yn ymchwilio i’r posibilrwydd y gallai’r cyffur ketamine fod yn ffactor yn y marwolaethau.

Mae Lanoi Lidell, 23, o Bentwyn, wedi cael ei gyhuddo o droseddau cyffuriau a bydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd heddiw, Tachwedd 18.

Mae wedi ei gyhuddo o gyflenwi ketamine a chocên ac o geisio cyflenwi ketamine a MDMA.

Yn dilyn y farwolaeth yn Nhongwynlais, mae saith o bobol wedi eu rhyddhau o dan ymchwiliad.

Tra bod Richard Rees, 31, o Bentre-baen, wedi ei gyhuddo o gyflenwi cocên, a bod mewn meddiant o gocên a chanabis gyda’r bwriad o gyflenwi.

Ymddangosodd yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Llun, Tachwedd 16, ac mae’n cael ei gadw yn y ddalfa ar gyfer gwrandawiad pellach.

Rhybudd Heddlu De Cymru i ddefnyddwyr cyffuriau

Mae Heddlu De Cymru yn atgoffa defnyddwyr cyffuriau rheolaidd y dylent fod yn ymwybodol na allant byth fod yn siŵr o’r hyn maent yn cymryd.

“Mae dau deulu wedi cael eu heffeithio gan farwolaeth dau oedolyn ifanc annwyl iawn ac maent yn cael eu cefnogi tra bydd yr ymchwiliad yn parhau,” meddai Ditectif Arolygydd Grant Wilson.

“Mae ditectifs Heddlu De Cymru yn parhau i weithio’n galed i ganfod yr union amgylchiadau ac yn apelio i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â ni.

“Dylai’r arestiadau anfon neges glir bod Heddlu De Cymru yn mynd ati o ddifri i atal cyflenwi cyffuriau.”