Mae cymdeithas gydweithredol sydd am sefydlu banc y bobol yng Nghymru wedi gweld twf o 21% yn eu dilynwyr ar wefan gymdeithasol Twitter yn ystod mis Tachwedd.

Y ddau brif reswm am hynny, yn ôl Alex Bird, Cadeirydd Cambria Cydfuddiannol Cyf sy’n ceisio sefydlu Banc Cambria, yw’r trafod brwd ar annibyniaeth i Gymru a pholau piniwn.