Mae Grŵp Frasers wedi rhybuddio bod amser yn brin i geisio achub busnes Debenhams.

Mae Frasers, sy’n berchen i Mike Ashley, wedi cadarnhau eu bod mewn trafodaethau gyda’r gweinyddwyr i geisio achub y busnes.

Fe fyddai cytundeb yn diogelu rhai o’r 12,000 o swyddi sydd yn y fantol wrth i Debenhams wynebu mynd i ddwylo’r gweinyddwyr.

Serch hynny, os nad oes cytundeb yn fuan, dywedodd Frasers ei fod yn bosib na fydd modd iddyn nhw achub y busnes.

Mae anawsterau wedi codi ar ôl i Grŵp Arcadia, sy’n berchen i Syr Philip Green, hefyd gael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr. Roedd gan Arcadia nifer o gonsesiynau ar draws siopau Debenhams.

Roedd J D Sports wedi bod mewn trafodaethau i brynu Debenhams cyn penderfynu peidio bwrw mlaen a’r cytundeb wythnos ddiwethaf.

Dros y penwythnos fe awgrymodd pennaeth ariannol Frasers, Chris Wootton, y gallai Frasers fod â diddordeb dod i gytundeb i brynu Debenhams.

Ond ychwanegodd bod Debenhams wedi bod yn “or-ddibynnol ar Arcadia am nifer o flynyddoedd” ac ar ôl i’r grŵp fynd i ddwylo’r gweinyddwyr, a “dim diwedd i’r cyfraddau busnes sy’n cosbi busnesau fel Debenhams, mae’n bosib y bydd yn gam rhy fawr,” meddai mewn cyfweliad a’r Sunday Times.