Mae’r Arlywydd Donald Trump wedi dweud bod ei gyfreithiwr, Rudy Giuliani, wedi cael prawf positif am y coronafeirws.

Roedd yr Arlywydd wedi trydar y newyddion ddydd Sul (Rhagfyr 6) bod cyn-Faer Efrog Newydd wedi cael prawf positif.

Yn ôl ffynonellau, roedd Rudy Giuliani, sy’n 76 oed, wedi cael rhai symptomau cyn iddo fynd i ganolfan feddygol Prifysgol Georgetown yn Washington.

Roedd Rudy Giuliani wedi bod yn teithio’n helaeth yn ystod yr wythnosau diwethaf mewn ymdrech i helpu Donald Trump i herio canlyniad yr etholiad arlywyddol. Mae’r Arlywydd yn ceisio cyflwyno her gyfreithiol yn nifer o’r taleithiau lle cafodd ei drechu gan Joe Biden.

Mae Donald Trump, oedd hefyd wedi cael ei heintio a’r firws ar ddechrau mis Hydref, wedi dymuno gwellhad buan i’w gyfreithiwr.

Nos Sul, roedd Rudy Giuliani wedi trydar i ddweud ei fod yn “gwella’n gyflym.”