Mae ymchwil gan Brifysgol Aberystwyth yn dangos gallai 92% o rewlifoedd yr Alpau ddiflannu erbyn diwedd y ganrif.
Cynhaliodd y tîm ymchwil waith maes yn yr Alpau, gan gynnwys defnyddio dronau, er mwyn mapio rhewlifoedd er mwyn darogan yn fwy cywir eu hymateb tebygol i newid hinsawdd.
Mae’r 4,000 o rewlifoedd yn cynnwys cyrchfannau sgïo poblogaidd megis y Klein Matterhorn yn y Swistir, Rhewlif Hintertux yn Awstria a La Grand Motte Glacier yn Ffrainc.
Mae’r canfyddiadau yn awgrymu y byddai’r mannau gwyliau sgïo hynny wedi diflannu yn llwyr erbyn troad y ganrif nesaf.
Bydd hefyd yn effeithio ar storfa ddŵr ac eco-systemau’r Alpau.
‘Rhewlifoedd yn dylawnadu ar bopeth’
Eglurodd cydlynydd y project, yr Athro Neil Glasser o Brifysgol Aberystwyth, mai diflaniad rhewlifoedd yw un o’r effeithiau mwyaf gweledol ac uniongyrchol o newid hinsawdd.
“Mae’r rhewlifoedd hyn yn dylanwadu ar bopeth o ecosystemau i boblogaethau dynol,” meddai.
“Yr effaith ar gyflenwadau dŵr a’r newid i ddŵr ffo a thoddi yw un o’r effeithiau mwyaf ar y boblogaeth leol yn yr Alpau. Fe ddaw hynny ag oblygiadau i ddŵr yfed, cnydau, dyfrhau, glanweithdra a chynhyrchu pŵer trydan dŵr.
“Mae’r canlyniadau yn cyfrannu at ddealltwriaeth well o sut mae rhewlifoedd yn yr Alpau Ewropeaidd yn ymateb i hinsawdd sy’n newid.
“Os, fel yr ydym yn disgwyl, y gwelwn ni’r patrymau yn cael eu hail-adrodd ar lefel fyd-eang, caiff crebachiad rhewlifoedd y mynyddoedd effeithiau sylweddol ar godi lefel y môr.”
Ychwanegodd Renato R. Colucci o Gyngor Ymchwil Cenedlaethol yr Eidal, a arweiniodd y tîm yn yr Eidal a weithiodd ar y prosiect y byddai pob un o’r rhewlifoedd o dan 3500 metr wedi toddi erbyn 2050.
“Hyd yn oed dan y senario mwyaf optimistaidd o ran lliniaru allyriadau carbon, rydym yn rhagweld y bydd Uchderau Llinell Cyfantoledd yn uwch nag 69%,” meddai.
“Dyma’r astudiaeth gyntaf i archwilio Uchderau Llinell Cyfantoledd Amgylcheddol yr holl Alpau dros gyfnod cyhyd o amser.
“Mae’n darparu sail dda i ddeall yn well sut mae ymateb rhewlifoedd i newid hinsawdd yn wahanol rhwng gwahanol ranbarthau.”