Mae’r brechlyn Covid-19 wedi dechrau cyrraedd ysbytai gyda’r brechiadau cyntaf yn dechrau o fory (Dydd Mawrth, Rhagfyr 8) ymlaen.
Ond yn ôl swyddog iechyd fe fydd y rhan fwyaf o bobl dros 80 oed yn gorfod aros tan y flwyddyn newydd cyn cael y brechlyn.
Mae disgwyl i bobl dros 80 oed, gweithwyr mewn cartrefi gofal a staff rheng flaen y Gwasanaeth Iechyd fod ymhlith y cyntaf i gael y brechlyn.
Dywedodd prif weithredwr NHS Providers, Chris Hopson, na ddylai pobl dros 80 oed boeni os nad ydyn nhw wedi derbyn llythyr neu alwad ffôn ynglŷn â’r brechlyn hyd yn hyn.
“Dw i ddim yn credu dylai pobl ddisgwyl unrhyw beth dros y dyddiau nesaf oherwydd, y realiti yw, fel gwnes i ddweud, i’r rhan helaeth o bobl, fe fydd hyn yn cael ei wneud ym mis Ionawr, Chwefror a Mawrth.
“A’r hyn dy’n ni ddim eisiau i bobl wneud yw dechrau poeni neu fod yn bryderus a gofyn ‘le mae fy llythyr i?’ ym mis Rhagfyr,” meddai.
Mae’r Deyrnas Unedig wedi archebu 40 miliwn dos o’r brechlyn Pfizer/BioNTech sy’n ddigon i frechu 20 miliwn o bobl, gan fod angen i bobl gael dau ddos o’r brechlyn.
‘Cadw at y rheolau’
Ond fe allai gymryd misoedd cyn gweld effaith y brechlyn, yn ôl Dr Chris Williams, cyfarwyddwr digwyddiadau ar gyfer ymateb i’r coronafeirws yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.
“Mae’n bosib na fydd effeithiau’r brechlyn yn cael eu gweld yn genedlaethol am rai misoedd felly mae’n hynod o bwysig bod pawb yn cadw at y cyngor ynglŷn â chadw Cymru’n ddiogel.”
Fe gyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru bod nifer yr achosion gafodd eu cofnodi ddydd Sul (Rhagfyr 6) wedi codi i 1,916 gan ddod a chyfanswm yr achosion yng Nghymru i 88,992.