Mae adroddiad i effaith ddinistriol llifogydd yn Rhondda Cynon Taf yn dangos cefnogaeth lawn i ymchwiliad cyhoeddus annibynnol.

Yn yr ‘Adroddiad Arolwg Llifogydd 2020′ gan Blaid Cymru roedd pob un o’r 137 ymatebydd eisiau ymchwiliad diduedd i’r digwyddiadau.

Yn ogystal ag argymell ymchwiliad cyhoeddus, mae’r adroddiad hefyd yn galw am fwy o fuddsoddiad i atal ac amddiffyn yr ardal rhag llifogydd, gan sicrhau bod iawndal ar gael i ddioddefwyr.

Arwyddwyd deiseb yn galw am ymchwiliad annibynnol gan 6,000 o bobol a bydd y mater felly yn cael ei drafod yn y Senedd yr wythnos yma.

‘Cyfrifoldeb yn aneglur’

Disgrifiodd Leanne Wood, Aelod o’r Senedd dros y Rhondda, yr adroddiad fel un “pwerus a chymhellol”.

“Mae cael dull amlasiantaethol, pob un â’i agwedd wahanol ei hun ar yr hyn a ddigwyddodd a’u hagenda eu hunain, wedi creu senario lle mae llinellau cyfrifoldeb yn aneglur,” meddai.

“Byddai ymchwiliad cyhoeddus yn datrys y dryswch hwn ac yn mynd at galon yr hyn a ddigwyddodd a’r hyn sydd angen digwydd i sefyll y siawns orau o’i atal rhag digwydd eto.

“Mae angen hyn yn fawr yn y Rhondda gan ein bod wedi gweld llifogydd yn olynol eleni ac maent wedi bod yn bennaf mewn lleoedd heb unrhyw hanes go iawn o lifogydd.”

Bydd Leanne Wood yn cymryd rhan yn y ddadl yn y Senedd yr wythnos yma, gan gwestiynu pam bod Llafur Cymru wedi gwrthwynebu’r ymchwiliad tra bod y blaid Lafur wedi galw am ymchwiliad cyhoeddus i lifogydd yn Lloegr.

Yn y cyfamser mae Mick Antoniw, Aelod o’r Senedd Llafur Pontypridd, ac Aelod Seneddol Pontypridd Alex Davies-Jones wedi lansio adroddiad eu hunain sydd, yn eu barn nhw, yn cynnig yr atebion a’r cymorth i helpu busnesau a’r gymdeithas leol.

Ymhlith yr argymhellion mae ymarferion llifogydd rheolaidd, llunio rhwydwaith o lysgenhadon llifogydd ac asesiad gan y bwrdd iechyd o effaith y llifogydd ar iechyd meddwl.

‘Torcalonnus’

Heledd Fychan, Cynghorydd Rhondda Cynon Taf sy’n gyfrifol am greu’r  ddeiseb.

“Mae’r dystiolaeth a gynhwysir yn yr adroddiad hwn yn dorcalonnus i’w ddarllen,” meddai.

“Mae’n dangos yn glir bod bywydau wedi eu chwalu gan y llifogydd, a bod yr effaith a’r trawma yn parhau hyd heddiw.

“O siarad â llawer o ddioddefwyr, gwn na fyddant yn dod o hyd i heddwch nes eu bod yn derbyn yr atebion y maent yn eu haeddu, a bod mesurau ar waith i ddiogelu eu cartrefi a’u busnesau.

“Ymchwiliad cyhoeddus yw’r ffordd orau i sicrhau bod lleisiau a phrofiadau dioddefwyr yn cael eu clywed.”