Yn dilyn effaith dinistriol Storm Dennis yn ardal Pontypridd a Chwm Taf yn gynharach eleni mae gwleidyddion lleol wedi cyhoeddi adroddiad yn cynnig chwe argymhelliad i fynd i’r afael â llifogydd yn yr ardal.

Mae Mick Antoniw, Aelod o’r Senedd Llafur Pontypridd, ac Aelod Seneddol Pontypridd Alex Davies-Jones wedi lansio adroddiad sydd, yn eu barn nhw, yn cynnig yr atebion a’r cymorth i helpu busnesau a’r gymdeithas leol.

Ymhlith yr argymhellion mae ymarferion llifogydd rheolaidd, llunio rhwydwaith o lysgenhadon llifogydd ac asesiad gan y bwrdd iechyd o effaith y llifogydd ar iechyd meddwl.

Effeithiodd y llifogydd ar 1,800 o aelwydydd yn yr ardal ac ers hynny mae’r gwleidyddion wedi cynnal cyfarfodydd cyhoeddus rheolaidd gyda’r gymuned leol ac wedi trefnu cyllid o £34,000 drwy apêl Crowdfunder a £100,000 gan elusen Moondance.

“Effeithiodd y llifogydd yn wael ar fusnesau hefyd, gyda’r rhai a leolir ar Ystâd Ddiwydiannol Trefforest a stryd fawr Pontypridd ymhlith y rhai a ddioddefodd ddifrod gwerth degau o filiynau o bunnoedd,” meddai Mick Antoniw:

“Rydym wedi nodi ein gofynion allweddol sydd, yn ein barn ni, yn ymarferol ac yn gyraeddadwy a dylent helpu i roi rhywfaint o sicrwydd i breswylwyr wrth i ni barhau i brofi glaw trwm yr hydref hwn.

“Daeth ein cymuned at ei gilydd yn rhyfeddol yn ystod y llifogydd. Nawr mae’n bryd sicrhau y gellir eu paratoi’n well, yn feddyliol ac yn ymarferol.”

Iechyd meddwl

Ychwanegodd Alex Davies-Jones fod asesiad o effaith y llifogydd ar iechyd meddwl, a hynny yn ystod y pandemig, yn flaenoriaeth iddynt.

“Mae hefyd yn amlwg fod y llifogydd wedi cael effaith ar iechyd meddwl llawer o breswylwyr – yn enwedig y rhai â phlant ifanc ac ar bobl hŷn a phobl ag anableddau sy’n agored i niwed – a dyna pam rydym yn galw am asesiad o effaith y llifogydd ar iechyd meddwl. Mae’r effaith yn parhau ac i rai mae pryder eithaf dealladwy erbyn hyn bob tro y mae’n bwrw glaw yn drwm.

“Roedd difrifoldeb y llifogydd yn wirioneddol frawychus i’w gweld. Gobeithiwn y bydd yr adroddiad hwn yn nodi’n glir yr effaith y mae wedi’i chael ar drigolion a busnesau – ac yn dangos bod Mick Antoniw a fi wedi bod yn gweithio’n galed i gael atebion i’r cwestiynau dealladwy niferus a gododd o ganlyniad i’r llifogydd.

“Nid yw hwn yn ddigwyddiad y mae’r un ohonom am fyw drwyddo eto, ond bod mor barod ag y gallwn fod yw ein hamddiffyn gorau.”

Beirniadaeth

Fodd bynnag, mae rhai wedi dweud nad yw’r adroddiad yn mynd yn ddigon pell, ac nad yw argymhellion yr adroddiad yn ddigonol.

Trydarodd Heledd Fychan, Plaid Cymru, sy’n Gynghorydd Sir a Thref dros Dref Pontypridd fod “pawb ddioddeddfodd llifogydd rwyf wedi siarad gyda heddiw yn feirniadol o’r adroddiad hwn.”

“Nid yw’n cynnig atebion na sicrwydd i’r dyfodol,” meddai’r Cynghorydd.

“Nid yw’n crybwyll ymchwiliad annibynnol. Nid yw’r argymhellion yn ddigonol.

“Mae ein cymunedau yn haeddu gwell na hyn.”