Fe fydd yr Ysgrifennydd Iechyd yn cyhoeddi ym mha haen y bydd pob awdurdod lleol yn Lloegr yn cael eu rhoi pan fydd y cyfnod clo yno yn dod i ben ar Ragfyr 2.

Mae disgwyl i Matt Hancock wneud cyhoeddiad yn y Senedd heddiw (dydd Iau, Tachwedd 26) ar ôl i’r Llywodraeth amlinellu ei chynllun ar gyfer y gaeaf yn gynharach yr wythnos hon.

Fe fydd pob ardal yn cael ei rhoi mewn un o dair haen pan fydd y cyfnod clo yn dod i ben. Ond mae’r system yn fwy llym y tro hwn gan olygu y bydd mwy o awdurdodau lleol yn symud i’r haenau uchaf.

Fe allai ardaloedd sy’n dangos cynnydd wrth arafu lledaeniad Covid-19 gael eu symud i lawr un haen cyn y Nadolig. Mae disgwyl yr adolygiad cyntaf o’r haenau ar Ragfyr 16.

Mae disgwyl i Lundain gael ei rhoi yn Haen 2 ynghyd a’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn Lloegr.

“Dw i’n gwybod y bydd y rhai ohonoch chi sy’n wynebu cyfyngiadau Haen 3 yn ei chael hi’n anodd iawn ond dw i eisiau eich sicrhau chi y byddwn ni yn cefnogi eich ardaloedd gyda phrofion torfol yn y gymuned ac arian ychwanegol,” meddai Matt Hancock.

Yn ôl yr Adran Iechyd fe fydd y penderfyniad am yr haenau yn seiliedig ar nifer o ffactorau, gan gynnwys nifer yr achosion o’r firws ym mhob grŵp oedran ac yn enwedig ymhlith pobl dros eu 60au, a’r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd yn lleol.

Cymru                                        

Mae disgwyl i gabinet Llywodraeth Cymru gwrdd i benderfynu a oes angen cyflwyno cyfyngiadau pellach, tebyg i’r system haenau yn Lloegr, cyn y Nadolig ond does dim disgwyl cyhoeddiad tan ddydd Gwener.