Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) wedi cyhuddo Llywodraeth y Deyrnas Unedig o’u “bradychu” drwy dorri cyllideb amaethyddol Cymru.

Cyhoeddodd y Canghellor Rishi Sunak yn ei adolygiad gwariant ddydd Mercher (25 Tachwedd) y byddai’r gyllideb yn cael ei thorri o leiaf £95 miliwn yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.

Yn dilyn addewid ym maniffesto’r Ceidwadwyr yn 2019, roedd disgwyl i’r gyllideb fod yn £337 miliwn, ond cyllideb o £242 miliwn yn unig fydd ar gael ar gyfer 2021-2022.

Daeth y cyhoeddiad ddeuddydd ar ôl i’r llywodraethau datganoledig ysgrifennu at y Gweinidog Amaeth, George Eustice, yn ei annog i roi sicrwydd y byddai’r gyllideb yn cael ei chynnal.

‘Bradychu cymunedau amaethyddol’

“Mae’r penderfyniad i dorri’r gyllideb yn bradychu’r ffermwyr sydd wedi parhau i gynhyrchu bwyd a bwydo’r genedl drwy gydol pandemig y coronafeirws,” meddai Glyn Roberts Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru.

“Mae’r effeithiau sylweddol y bydd toriad o’r fath yn ei gael ar ffermydd Cymru, busnesau amaethyddol a chymunedau gwledig yn glir, a bydd y rhain yn dod ar adeg pan fo’r diwydiant eisoes yn rhagweld problemau mawr oherwydd rhwystrau yn ymwneud â phrisiau tariff, cystadleuaeth annheg gan fewnforion is-safonol a’r posibilrwydd o rwystrau tariff enfawr gan yr Undeb Ewropeaidd os bydd ‘Brexit heb gytundeb’.”

Roedd Glyn Roberts hefyd wedi tynnu sylw at yr angen i sicrhau cytundeb masnach rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd ar ddiwedd y cyfnod trosglwyddo i fynd i’r afael a’r rhwystrau.

“Addawyd bargen barod i ffermwyr, busnesau ac etholwyr gwledig’ ac y byddai’r gyllideb amaethyddol yn cael ei chynnal.

“Er roedd Undeb Amaethwyr Cymru yn amheus ynghylch addewidion o’r fath, roedd llawer yn eu derbyn yn ddidwyll. Gall yr hyn sydd wedi digwydd ond cael ei ddisgrifio fel bradychiad Brexit fydd â chanlyniadau pellgyrhaeddol i ffermydd teuluol, busnesau a chymunedau gwledig.”

‘Siarad nonsens’

Mae’r Aelod Ceidwadol o’r Senedd, Janet Finch-Saunders, Gweinidog yr Wrthblaid dros Newid yn yr Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig wedi wfftio’r honiadau.

“Mae’r honiadau a wnaed o ‘fradychiad Brexit’ dros gyllideb amaethyddiaeth Cymru a thoriadau tybiedig yn hollol anghywir.

“Gadewch i mi fod yn glir; ymrwymodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gynnal lefel y cyllid i ffermwyr yng Nghymru a rhwng y cyllid a dileu cronfeydd yr Undeb Ewropeaidd dyna’n union y maent yn ei wneud. Mae unrhyw un sy’n dweud unrhyw beth gwahanol yn siarad nonsens.

“Rhaid i’r rhai sy’n awgrymu nad yw hyn yn wir dynnu eu sylwadau yn ôl ar unwaith.”