Bydd y llywodraethau datganoledig yn derbyn £2.6bn i ymateb i’r coronafeirws y flwyddyn nesa’.

“Er bod llawer o’n hymateb coronafeirws ledled y DU, mae’r Llywodraeth hefyd yn darparu £2.6 biliwn i gefnogi’r gweinyddiaethau datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon,” meddai’r Canghellor.

Dyma un cyhoeddiad ymhlith llwyth o gyhoeddiadau gan y Canghellor, Rishi Sunak, brynhawn heddiw, fel rhan o’i Adolygiad Gwariant.

Yn siarad yn siambr Tŷ’r Cyffredin dywedodd y byddai £2bn yn cael ei wario ar drafnidiaeth flwyddyn nesa’, £3bn ar gynghorau yn Lloegr, a £3bn ychwanegol at GIG Lloegr.

Dywedodd bod £280bn eisoes wedi’i wario gan y Llywodraeth ar Covid.

Darlun llwm

Roedd coronafeirws yn amlwg yn bwnc llosg yn ystod yr anerchiad i Dŷ’r Cyffredin, ac mi wnaeth y Canghellor rhoi darlun llwm o’r dyfodol agos.

Dywedodd bod disgwyl i nifer y bobol sy’n ddi-waith yn y Deyrnas Unedig i gynyddu i 2.6 miliwn erbyn ail chwarter flwyddyn nesa’.

Ac ategodd bod “argyfwng economaidd” y Deyrnas Unedig “ond megis dechrau”. Bydd y niwed ac achoswyd gan covid yn “para” meddai wedyn.

Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod 1.62 miliwn yn ddi-waith yn y Deyrnas Unedig.

Cyhoeddiadau eraill

Cyhoeddodd y byddai cyflogau gweithwyr y sector cyhoeddus yn cael eu rhewi – ac eithrio cyflogau nyrsys, doctoriaid, a staff GIG eraill.

Oherwydd bod cynifer o feysydd wedi’u datganoli yng Nghymru mae’n debygol y bydd y drefn rhywfaint yn wahanol yn y wlad hon yn hyn o beth.

Wrth annerch Aelodau Seneddol dywedodd bod disgwyl i’r economi grebachu 11.3% eleni, yna tyfu gan 5.5% flwyddyn nesa’, ac yna tyfu gan 6.6% yn 2022.

Mae ymateb Llywodraeth San Steffan i covid, gan gynnwys y cynllun ffyrlo, wedi arwain at gynnydd gwariant mawr, a hynny mewn cyfnod pan mae incwm trethi yn is.

Dywedodd Rishi Sunak bod disgwyl i’r Deyrnas Unedig fenthyg cyfanswm o £394bn eleni.

Crynodeb o’r prif bwyntiau

  • Bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £1.3bn ychwanegol
  • Mae disgwyl i economi y Deyrnas Unedig grebachu gan 11.3% eleni
  • Mae disgwyl i ddiweithdra gyrraedd 7.5% yn y gwanwyn, gyda 2.6 o bobol yn ddi-waith
  • Bydd cyflog miliynau o weithwyr sector cyhoeddus yn cael ei rhewi yn 2021-22
  • Bydd miliwn o weithwyr GIG, a gweithwyr cyhoeddus sy’n ennill llai na £24,000 yn derbyn codiad
  • Bydd cyllid cymorth tramor yn cael ei dorri gan £4bn
  • Bydd cronfa £4bn yn mynd tuag at uwchraddio isadeiledd ledled y Deyrnas Unedig

Gallwch ddarllen mwy am y goblygiadau i Gymru yma.