Prin iawn yw’r wybodaeth sydd i gael am y grŵp sy’n arwain ymdrech ‘y miliwn’, ac “mae’r holl beth yn dawel ac yn y cysgod.”
Dyna farn Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, wrth siarad â Golwg wedi lansiad maniffesto’r mudiad iaith – Troi Dyhead yn Realiti: Gofynion Dyfodol i’r Iaith ar Gyfer Senedd 2021-2026.
Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac mae dogfen ddiweddara’ Dyfodol i’r Iaith yn croesawu’r ymrwymiad “chwyldroadol.”
Mae Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg, wedi dweud droeon bod staff y llywodraeth yn llywio’r strategaeth (‘Prosiect 2050’), ond prin iawn yw’r wybodaeth gyhoeddus am y tîm.
Ac o ystyried pwysigrwydd targed y miliwn i Gymry Cymraeg, mae Heini Gruffudd yn teimlo y dylai fod tipyn yn fwy o dryloywder a chyhoeddusrwydd.
“Fe gyhoeddodd y Llywodraeth yn 2017 eu bod nhw am gael Prosiect 2050 i yrru’r strategaeth yn ei blaen,” meddai Cadeirydd Dyfodol.
“Rhyw flwyddyn yn ôl, dywedodd Eluned Morgan y byddai isadran y Gymraeg yn datblygu i gael pennaeth ar gyfer y prosiect yma. A dw i’n deall mai Jeremy Evas sydd wedi’i benodi.
“Hefyd, roedd y Llywodraeth am gael ymgynghorwyr arbenigol allanol yn rhan o’r prosiect yma.
“Nawr te, dyw’r rheina ddim wedi cael eu penodi. Does dim cyhoeddusrwydd wedi bod i Jeremy Evas druan.
“A does neb yng Nghymru, mewn gwirionedd, yn gwybod am y prosiect yma, sut mae’n cael ei gweithredu, sut mae cysylltu â nhw, beth yw eu grymoedd nhw.
“Ac mae’r holl beth yn dawel ac yn y cysgod.
“Os oes gyda chi brosiect fel hyn, gwnewch e’n amlwg, a gwnewch e’n gwbl amlwg i bobol Cymru beth sy’n digwydd a beth yw ei gyfrifoldebau, fel ein bod ni gyd yn gallu bod yn rhan ohono fe.
“Ar hyn o bryd mae’n ddisylw iawn.”
Bron â chyrraedd y miliwn?
Mae maniffesto Dyfodol i’r Iaith yn cynnig syniadau ynghylch sut y gellir cyrraedd y miliwn, ac yn eu plith mae ehangu cyrsiau Cymraeg i Oedolion a sicrhau gweithleoedd cyfrwng Cymraeg.
Yr wythnos ddiwethaf mi gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddiweddariad o sefyllfa’r strategaeth, Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr, adroddiad blynyddol 2019 i 2020.
Ac mae’r ddogfen yma yn tynnu sylw at ganfyddiadau’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth – gwaith gan Lywodraeth Cymru sy’n casglu data am y Gymraeg.
Mae’r arolwg diweddaraf yn dyfalu bod yna 866,600 o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn hyn, sydd yn gynnydd aruthrol o gymharu â’r nifer a gofnodwyd yn y cyfrifiad diwethaf yn 2011, sef 562,000.
Os yw’r ffigurau yma yn gywir, pam bod Dyfodol i’r Iaith yn trafferthu â maniffesto? Onid yw’r Llywodraeth bron â chyrraedd ei tharged ta beth?
Mae Heini Gruffudd yn taflu dŵr oer am ben y syniad bod 866,000 o siaradwyr Cymraeg i’w cael.
“Ry’n ni’n bryderus iawn a dweud y gwir am ystadegau sydd yn adroddiad diweddaraf y Llywodraeth,” meddai.
“Ry’n ni’n draddodiadol wedi bod yn mesur siaradwyr Cymraeg yn ôl niferoedd y cyfrifiad – o gwmpas hanner miliwn. A’r ffigurau yna, efallai, yn mynd tuag i lawr.
“Nawr mae’r Llywodraeth fel pe bai yn eu hadroddiad mwyaf diweddar yn rhoi mwy o bwys ar yr arolwg sy’n cael ei gynnal pob hyn a hyn. Maen nhw’n honni 800,000 a mwy yn siarad yr iaith!
“Wel, wrth gwrs, mae hunanasesu mewn arolwg yn wahanol iawn i’r hyn sydd mewn gwirionedd yn digwydd i’r iaith.
“Os oes rhywun mewn arolwg yn gofyn cwestiynau sydd yn gwneud i chi deimlo eich bod chi eisiau plesio’r arholwr, wel, fe gewch chi atebion cadarnhaol yn hawdd iawn.
“Hynny yw, mae’r arolwg hyn yn dangos ewyllys da at yr iaith. Mae hynna’n beth da.
“Ond mae byd o wahaniaeth rhwng siarad y Gymraeg a’i defnyddio bob dydd, a dweud [eich bod yn siaradwr Cymraeg] mewn arolwg.”
Hefyd mae Dyfodol i’r Iaith yn galw am sefydlu rhwydwaith o ganolfannau Cymraeg, ac am lansio rhaglen i hyrwyddo’r Gymraeg yn ddigidol.
Mae hefyd yn galw am sefydlu Awdurdod neu Asiantaeth Iaith a fyddai’n sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu er budd yr iaith ym mhob maes – o dai a’r economi, hyd at iechyd a thwristiaeth.
“Bu’n rhaid ail-flaenoriaethu”
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth Golwg bod y coronafeirws wedi tarfu ar eu gwaith o greu miliwn o siaradwyr.
“Fel yr oedden ni ar fin cyhoeddi manylion Prosiect 2050, fe ddaeth COVID-19,” meddai llefarydd, “ac wrth gwrs, bu’n rhaid ail-flaenoriaethu pob agwedd ar ein gwaith.
“Dros y misoedd diwethaf, ry’n ni wedi canolbwyntio ar gefnogi a sicrhau parhad ein partneriaid a’u gwaith, gan gydweithio er budd y Gymraeg.
“Ry’n ni’n edrych ymlaen at rannu cynlluniau Prosiect 2050, sy’n rhan o Isadran y Gymraeg yn y Llywodraeth, pan fydd datblygiadau COVID yn caniatáu.”
Ac mae’r Llywodraeth yn mynnu mai’r Cyfrifiad fydd y ffon fesur, o ran nifer siaradwyr yr iaith, ac nid yr Arolwg Blynyddol oedd yn dangos bod 866,600 yn gallu siarad Cymraeg.
“Er bod yr wybodaeth o’r arolwg hwn yn ddefnyddiol,” meddai’r llefarydd, “mae’n bwysig cofio mai’r Cyfrifiad yw’r ffynhonnell awdurdodol ar gyfer nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, a dyma yw sail ein huchelgais o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg.
“Er hyn, mae ystadegau’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn galonogol iawn, a ry’n ni’n falch o weld bod y niferoedd sy’n datgan eu bod yn gallu siarad Cymraeg wedi cynyddu dros y degawd diwethaf.
“Mae’r ffigurau hyn yn cadarnhau bod y gwaith ry’ ni’n ei wneud yn y maes hwn yn cael effaith gadarnhaol wrth i ni weithio tuag at ein targed o gyrraedd y miliwn erbyn 2050.”