Bu farw Mari Lisa, bardd, awdur a chyfieithydd, a enillodd rai o brif wobrau llenyddol yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Urdd.

Cafodd ei magu yn Llanwrin ym Maldwyn, a threuliodd gyfnodau yn byw yng Nghaerfyrddin a Chaerdydd.

Cafodd ei haddysg yn Ysgol Bro Ddyfi, Machynlleth, cyn mynd i Brifysgol Aberystwyth i astudio Cymraeg a Drama, a pharhau yno wedyn i ymchwilio i garolau plygain Maldwyn ar gyfer gradd Meistr.