Er bod Jan Morris, a fu farw’r wythnos ddiwethaf yn 94 oed, yn enwog drwy’r byd am ei llyfrau taith, yng Nghymru roedd ei chalon, fel y dywedodd hi ei hun un tro.

Roedd y llenor yn annwyl ym meddyliau’r Cymry oherwydd y parch di-syfl a roddai bob amser i’w chyd-wladwyr yn ei hysgrifau a’i llyfrau.