Mae’r arddangosfa gyntaf ar fywyd yr actor enwog am fod yn agoriad llygad i lawer…

Yr arddangosfa ‘Bywyd Richard Burton’ yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd tan fis Ebrill yw’r un lawn gyntaf am yr actor enwog o Bont-rhyd-y-fen. Y bwriad yw ceisio dangos rhywfaint o’r dyn y tu ôl i’r penawdau – y Cymro Cymraeg, y darllenwr mawr, y tad, a’r gŵr.