Dylai llywodraethau’r Deyrnas Unedig geisio trin â’r argyfwng mewn ffordd debyg ar ôl y Nadolig, yn ôl Prif Weinidog Cymru.

Mae gweinidogion y Deyrnas Unedig, Cymru, yr Alban, a Gogledd Iwerddon wedi cytuno y bydd tair aelwyd yn medru ymgynnull rhwng Rhagfyr 23 a Rhagfyr 27.

Ac mae Mark Drakeford wedi dweud bod hynny’n “gwneud synnwyr” er mwyn ymateb i’r “goblygiadau a ddaw yn sgil rhagor o gymysgu rhwng aelwydydd”.

Yn siarad â BBC Radio Wales dywedodd y byddai yntau a’i deulu yn manteisio ar y llacio rheolau, a dywedodd ei fod yn awyddus am ragor o gydweithio ar lefel y Deyrnas Unedig.

“O gwrdd â’n gilydd pedair gwaith rydym wedi llwyddo dod at safiad tebyg ar gyfer pum niwrnod Nadolig,” meddai. “Mae hynny’n fy nghalonogi.

“Ond dw i am i ni ddod at safiad tebyg ar ben draw’r Nadolig hefyd, a dw i’n credu ei fod yn gwneud synnwyr gwneud hynny ledled y Deyrnas Unedig hefyd.

“Safiad tebyg wrth ymateb i’r goblygiadau a ddaw yn sgil rhagor o gymysgu rhwng aelwydydd.”