Bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £1.3bn o gyllid ‘ychwanegol’ yn ôl y Canghellor, Rishi Sunak, yn ei adolygiad gwariant… ond mae yna ansicrwydd o hyd ynghylch cyllid ôl-Brexit.
Mae Rishi Sunak, y Canghellor, wedi cyhoeddi £560m ychwanegol o gyllid craidd ar gyfer Llywodraeth Cymru, a £770m yn gysylltiedig â covid.
Llywodraeth Cymru sydd yn ariannu’r GIG, llywodraeth leol, addysg, a gwasanaethau datganoledig eraill yng Nghymru, a hi fydd yn penderfynu sut mae gwario’r arian yma.
Bydd £240m yn mynd tuag at gefnogi ffermwyr a rheolwyr tir – llai na’r £350m y flwyddyn mae Cymru’n ei dderbyn trwy gyllid yr Undeb Ewropeaidd – ac mi fydd yna £2m i gefnogi pysgodfeydd.
“Mae Adolygiad Gwariant heddiw yn tanlinellu ein hymrwymiad i bobol Cymru wrth i ni edrych tua’r dyfodol,” meddai Mr Sunak.
Mae Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart, wedi dweud y bydd Cymru gyfan yn elwa o’r rhaglen Restart – rhaglen gwerth £2.9bn i helpu pobol ddi-waith i ddod o hyd i waith.
Bydd cyflogau’r sector cyhoeddus (ac eithrio’r GIG a rheiny ar lai na £24,000) yn cael eu rhewi – ond gweinidogion Caerdydd fydd yn dewis y drefn i athrawon, doctoriaid, a nyrsys yng Nghymru.
Diwedd arian Ewropeaidd
Mae Cymru wedi derbyn bron i £2bn ers 2014 trwy gyllid strwythurol yr Undeb Ewropeaidd, ac mae’r arian yma wedi mynd at amryw brosiectau, megis ffordd Blaenau’r Cymoedd.
Yn 2017 cyhoeddodd Llywodraeth San Steffan y bydd eu ‘Cronfa Ffyniant Gyffredin’ yn dod i rym wedi Brexit, ac mae cryn anfodlonrwydd wedi bod am y diffyg manylion amdani.
Bydd y gronfa “ar yr un lefel ag arian yr Undeb Ewropeaidd ar y lleia’, ac ar gyfartaledd yn rhyw £1.5 biliwn y flwyddyn”, yn ôl yr adolygiad gwariant.
Does dim cadarnhad ynghylch a fydd Cymru yn derbyn yr un swm bob blwyddyn. Dyna oedd y drefn â’r cyllid Ewropeaidd, ac roedd y rhaglenni yn dod at gyfanswm o £375m pob blwyddyn.
Mae’r adolygiad yn nodi y bydd cyfran o’r gronfa newydd yn targedu’r llefydd “â’r angen mwyaf” ledled y Deyrnas Unedig gan gynnwys llefydd ôl-ddiwydiannol.