Mae Heddlu De Cymru wedi dechrau ymchwiliad wedi i fachgen 17 oed gael ei drywanu yn ardal Treganna yng Nghaerdydd.

Yn dilyn y digwyddiad fore dydd Mercher, Tachwedd 25, mae’r Heddlu yn parhau i chwilio yn ardaloedd Treganna, Riverside a Grangetown yn y brif ddinas.

Er i’r bachgen gael ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru dydy ei anafiadau ddim yn rhai sydd yn bygwth ei fywyd.

Cadarnhaodd yr Heddlu fod bachgen 15 oed o ardal Riverside wedi ei arestio ar amheuaeth o glwyfo.

Daw hyn yn dilyn digwyddiad treisgar arall yng nghanol y ddinas dros y penwythnos.

Mae’r Heddlu yn credu nad digwyddiadau ar hap yw’r rhain a bod a’u bod yn ymwneud â grwpiau o fechgyn lleol yn eu harddegau sy’n targedu ei gilydd.

Yn dilyn y digwyddiad, mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi dau orchymyn i gadw’r cyhoedd yn ddiogel.

Rhoddwyd hawl i swyddogion stopio a chwilio unrhyw un neu unrhyw gerbyd yn ardaloedd Treganna a Grangetown ddydd Mercher.

Mae’r gorchymyn arall yn rhoi hawl i’r Heddlu wahardd unrhyw un o’r ardal am hyd at 48 awr.

‘Sioc a phryder’

“Yn ddealladwy mae sioc a phryder unwaith eto yn y gymuned pan fydd digwyddiad fel hyn yn digwydd,” meddai’r Uwch-arolygydd Esyr Jones.

“Mae un person wedi cael ei arestio ac mae ymholiadau’n parhau er mwyn arestio eraill.

“Nid ymosodiadau ar hap yw’r un heddiw a’r un dydd Sadwrn yng nghanol y ddinas, maent yn cynnwys grwpiau o fechgyn lleol yn eu harddegau sy’n targedu ei gilydd ac rydym yn apelio i’r gymuned am wybodaeth.

“Rydym yn annog teuluoedd a phobl hŷn i siarad â’u plant am beryglon troseddau cyllyll ac i gysylltu â Heddlu De Cymru os ydynt yn amau bod eu plentyn yn gysylltiedig â’r digwyddiad hwn.

“Gallai cymryd y camau hyn achub bywydau.”