Mae’r ymchwiliad i ddigwyddiad treisgar yng nghanol dinas Caerdydd neithiwr (nos Sadwrn, Tachwedd 22) yn parhau, wrth i’r heddlu gyhoeddi’r wybodaeth ddiweddaraf.
Cafodd chwech o bobol eu cludo i’r ysbyty ar ôl i’r gwasanaethau brys gael eu galw i Heol y Frenhines am oddeutu 9.50yh.
Mae tri ohonyn nhw’n dal yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd ac un arall yn Ysbyty Llandochau ond mae lle i gredu nad yw eu bywydau mewn perygl.
Mae pedwar o bobol bellach wedi cael eu harestio ar amheuaeth o annhrefn dreisgar, a bu’n rhaid i’r heddlu ddefnyddio gwn taser ar ddyn arall oedd yn ceisio atal yr heddlu ond nad oedd â rhan yn y trais.
Mae 20 o dditectifs yn cynnal ymchwiliad ac yn pori drwy luniau camerâu cylch-cyfyng ac yn holi tystion.
Dywed yr heddlu fod hwn yn un digwyddiad ar ei ben ei hun a bod pobol ifanc yn gyfrifol, ac maen nhw’n pwysleisio bod Caerdydd yn ddinas ddiogel o hyd.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101.