Mae Neil McEvoy, yr Aelod o’r Senedd dros Ganol De Cymru, wedi dweud “pan ydych chi’n herio awdurdod yng Nghymru, dydyn nhw ddim yn ei hoffi”.
Daeth ei sylwadau heddiw (dydd Sul, Tachwedd 22) wrth iddo siarad ar raglen Sunday Politics Wales y BBC.
Fe ddywedodd iddo gael ei “drin yn wahanol i unrhyw Aelod arall o’r Senedd” wrth beidio â chael ei alw i siarad a chyfrannu at drafodaethau a methu â chyflwyno cwestiynau.
“Mae oddeutu 13% o’r holl gwestiynau brys dros y tair blynedd diwethaf wedi cael eu cyflwyno gen i, a does yna’r un ohonyn nhw wedi cyrraedd yr agenda,” meddai.
Mae’n cyhuddo’r Llywydd Elin Jones o “ymosod” arno ar y cyfryngau cymdeithasol, ac mae’n dweud iddo “gael clywed bod pobol yn ei chael hi’n anghyfforddus delio â fi oherwydd y ffordd dw i’n edrych”.
Wrth fynd yn ei flaen i drafod hiliaeth, dywedodd iddo gyflwyno “pedwar cynnig synhwyrol iawn” a bod rhai ohonyn nhw wedi dod o’r gymuned mae’n ei chynrychioli.
“Fe wnaeth swyddogion dderbyn fy ngwelliannau ac yna, awr cyn i’r cyfarfod ddechrau, fe wnaeth y Llywydd, y Llywydd o Blaid Cymru, dynnu fy holl welliannau’n ôl er mwyn cynnal busnes priodol.
“Felly yr hyn roedd y Senedd yn ei ddweud y diwrnod hwnnw oedd fod cynigion i fynd at wraidd herio hiliaeth, pobol fel fi sy’n cael ein sarhau yn y stryd, pobol fel fi sy’n dioddef rhagfarn, pobol fel fi oherwydd y ffordd dw i’n edrych i rai pobol sydd â bywydau gwahanol…
“Yr hyn ro’n i’n ei ddweud, fel yr unig Aelod o liw oedd yn gallu cyflwyno cynigion, oedd fod angen edrych ar y pethau hyn, ac roedd yn gwbl amharchus.”
Ymddygiad honedig
Roedd yn wfftio’r awgrym mai ei ymddygiad honedig yw’r rheswm pam iddo gael ei drin yn wahanol.
Mae wedi’i wahardd o Grŵp Plaid Cymru ac yna o’r Blaid, ac am bedwar mis gan Gyngor Caerdydd yn dilyn ffrae tros gartref gofal ac yna am frwydro achos teulu oedd yn cael problemau fel tenant.
“Dw i’n broblem i’r Sefydliad Cymreig, yn amlwg, ac o ran y cyhuddiadau fe gewch chi’r stori lawn o fynd i ragor o fanylder,” meddai.
“Ces i fy ngwahardd am fis am gefnogi teulu oedd yn cael eu troi allan [o’u cartref] yn annheg, ces i fy ngwahardd am bedwar mis am siarad dros blentyn mewn gofal sy’n honni iddo gael ei gamdrin.
“Yr hyn dw i’n ei gael yn ddiddorol o ran y gwaharddiad pedwar mis yw fy mod i wedi cyrraedd pwynt nawr lle, os dw i’n gwneud galwad ffôn ddadleuol, dw i’n recordio fy hun ar fideo yn gwneud hynny oherwydd pan ydych chi’n herio awdurdod yng Nghymru, dydyn nhw ddim yn ei hoffi.”
Beirniadu’r cyfnod clo
Yn ystod y cyfweliad, roedd yn feirniadol o gyfnod clo’r coronafeirws yng Nghymru, gan fynnu bod “angen polisïau yn seiliedig ar synnwyr cyffredin ac ar wyddoniaeth”.
“Does dim gwyddoniaeth wrth gau busnesau lle gallwch chi fynd o gwmpas y busnes hwnnw’n ddiogel,” meddai.
“Mae angen cymryd y feirws o ddifri ond mae angen i ni alluogi pobol i fynd o gwmpas eu bywydau bob dydd mor ddiogel â phosib.
“Yr hyn ro’n i’n ei gael yn rhwystredig iawn oedd ein bod ni wedi cefnogi’r cyfnod clo cyntaf ond chawson ni ddim wir gyfnod clo go iawn.
“Roedd y maes awyr ar agor a daeth 24,000 o bobol i mewn heb gael eu profi, mae’r porthladdoedd wedi bod ar agor, doedd dim cyfyngiadau ar y ffyrdd gyda phobol yn dod o lefydd â chyfraddau heintio uchel.
“Yr hyn sydd angen ei wneud yw edrych ar hyn yn holistaidd.
“Dydy cau’r tafarnau am 10 o’r gloch, er enghraifft, ddim yn gwneud synnwyr oherwydd bydd pobol wedyn i gyd yn gadael ar yr un pryd, felly mae hwnnw’n bolisi gwael.
“Mae busnesau’n gweithredu yn yr awyr agored sy’n mynd i’r wal.
“Mae pobol wedi gweithio drwy gydol eu bywydau i adeiladu eu busnesau ac yn eu gweld nhw’n diflannu wedyn.
“Os edrychwch chi ar yr ysgolion hefyd, lle’r ydyn ni nawr, mae fy merch fy hun yn mynd i’r ysgol ac mae swigen lle mae cyfyngiadau, ond maen nhw’n mynd ar y bws lle mae rhwydd hynt i bawb.
“Dw i’n credu mai’r hyn mae pobol yn ei wrthwynebu yw’r holl wrthddweud.”
Plaid newydd, enw newydd?
Yn y cyfamser, dywedodd Neil McEvoy ei fod wedi gwneud cais i ailgofrestru ei blaid fel y ‘Welsh Nation Party‘ (‘Plaid y Genedl Gymreig’ yn Gymraeg.)
Daw hyn ar ôl i Blaid Cymru wrthwynebu’r enw ‘Welsh National Party / Plaid Genedlaethol Cymru’.
“Fe wnaethon ni ailfrandio fel ‘Welsh Nation Party‘,” meddai.
“Y rheswm cyntaf oedd ein bod ni wedi cofrestru fel ‘Welsh National Party‘ [Plaid Genedlaethol Cymru] ond fe wnaeth Plaid Cymru ei wrthwynebu.
“Yr hyn wnaethon ni ei gasglu o’r cymunedau hefyd oedd fod y gair ‘nation‘ yn cael ei weld a’i deimlo fel un mwy cynhwysol ac roedd aelodau’n dweud wrthym, ‘Mae gyda ni broblem o ran ‘Welsh National Party‘, ‘national‘ oherwydd gwrthwynebiad Plaid Cymru, pam na wnawn ni ddod yn ‘Welsh Nation Party‘?”
“Oherwydd y syniad o ran ‘Cenedl’ yw y gallwch chi ddod i Gymru a bod yn rhan o genedl Cymru, felly mae’n gynhwysol iawn.
“Yr hyn wnaethon ni oedd cyflwyno’r cais eto ar gyfer ein dewis enw, sef ‘Welsh Nation Party‘, a dyna lle’r ydyn ni arni.
Mae golwg360 wedi cael gwybod bod Plaid Cymru yn herio’r cais am yr enw newydd gerbron y Comisiwn Etholiadol, hefyd.
Yna, aeth Neil McEvoy yn ôl at drafod Bae Caerdydd.
“Rydyn ni’n byw mewn gwlad sydd wedi’i dominyddu gan un blaid wleidyddol ers 21 mlynedd,” meddai.
“Dw i ddim yn meddwl ei bod yn gyfrinach o unrhyw fath fod tipyn o lygredd mewn sawl ffordd mewn gwleidyddiaeth yng Ngymru a’r hyn rydyn ni eisiau ei wneud yw herio’r llygredd hwnnw, glanhau Bae Caerdydd, rhoi llais i bobol ac rydyn ni eisiau gwneud i Senedd Cymru weithio.
“Dw i’n credu bod yna argyfwng tai enfawr yng Nghymru.
“All pobol ifanc ddim dringo’r ysgol.
“Rydyn ni am gyflwyno polisïau synhwyrol i newid bywydau pobol gan ddefnyddio Senedd Cymru.
“Rydyn ni wir o ddifri am hynny.”
Ac ymosododd yn benodol ar y Blaid Lafur ac ar bleidiau eraill am eu cefnogi.
“Mae ein neges yn atseinio, mae’n denu, ac mae pobol eisiau newid.
“Rydyn ni wedi cael digon o Lafur a’r cartel.
“O ran Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol, y cyfan maen nhw wedi’i wneud ers 21 mlynedd yw cefnogi Llafur, felly os ydych chi’n pleidleisio dros y pleidiau hynny, fe gewch chi Lafur.
“Yr hyn rydyn ni eisiau bod, am y tro cyntaf erioed, yw gwrthblaid gredadwy sy’n dal y Llywodraeth i gyfrif.”
Ymateb y Senedd
Mae llefarydd ar ran y Senedd wedi ymateb i sylwadau Neil McEvoy am golli’r hawl i siarad yn y Senedd.
Dywedodd nad yw wedi ymddiheuro am “ymddygiad yn erbyn y drefn” ond y bydd yn cael yr hawl i siarad yn rhydd eto pan fydd e wedi gwneud hynny.