Mae un o wyddonwyr pwyllgor SAGE Llywodraeth Prydain yn rhybuddio bod mynd i’r dafarn a chael torri gwallt yn dal yn beryglus, wrth iddo rybuddio rhag “gwahardd” y Nadolig.

Yn ôl Athro Iechyd Plant a Meddyginiaethau Cychwynnol ym Mhrifysgol Lerpwl yn dweud y byddai ceisio gosod cyfyngiadau ar hawliau pobol dros y Nadolig yn golygu y byddan nhw ond yn eu torri beth bynnag.

“Mewn gwirionedd, allwn ni ddim gwahardd y Nadolig felly fe fyddai ond yn arwain at dorri [cyfyngiadau] a beth wnewch chi am hynny?” meddai wrth raglen Sophy Ridge on Sunday.

“Felly yr hyn rydyn ni’n edrych arno yw cael gostwng yr ‘R’ [y gyfradd heintio] ond hefyd gostwng y nifer go iawn o achosion ac mae yna newyddion da iawn yn y fan honno.

“Yn genedlaethol, rydyn ni’n gweld achosion yn y gymuned yn gostwng ac yn yr ardaloedd hynny [o Loegr] a aeth i Haen 3 cyn y cyfnod clo, rydym eisoes yn gweld y rhod yn troi o ran nifer y derbyniadau i’r ysbyty a byddwn yn gweld nifer y marwolaethau’n gostwng hefyd.”

‘Gweithgareddau risg uchel’

Yn ôl yr Athro Calum Semple, mae mynd i’r dafarn a chael torri gwallt yn dal yn “weithgareddau risg uchel” er bod hawl gan bobol eu gwneud nhw yn ôl y cyfyngiadau diweddaraf.

“Ar sail unigol, bydd pobol sydd wedi cadw’n dynn at ddefnyddio mecanweithiau gwarchod a bydd hynny wedi eu gwarchod nhw ond fel gyda phob peth, mae’r weithgaredd ei hun yn risg ac nid yw’n cymryd llawer – does ond angen i chi gyffwrdd eich mwgwd pan na ddylech chi wneud ac rydych yn codi’ch siswrn ac yn symud eich gwallt, yn symud rhywbeth o lygad rhywun ac yn sydyn iawn, rydych chi wedi torri’r cyfyngiadau,” meddai.

“Nid yw’n fater o wisgo mwgwd a fisor yn unig, mae’n fater o beidio â chyffwrdd â’r mwgwd, mae’n fater o olchi’ch dwylo.

“Mae’n anodd, mae’n cymryd blynyddoedd i nyrsys a meddygon ddysgu gwneud hyn yn iawn.”