Mae barnwr ffederal wedi cymeradwyo canlyniadau talaith Pennsylvania yn etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau.
Fe wnaeth y Democrat Joe Biden guro’r Arlywydd Donald Trump o fwy nag 80,000 o bleidleisiau yno.
Ond roedd ymgyrchwyr ar ran yr arlywydd yn gwrthwynebu’r canlyniad.
Yn ei ddyfarniad, dywedodd y barnwr nad oedd sail na thystiolaeth i brofi dadleuon cyfreithiol a honiadau’r ymgyrchwyr.
Dywedodd na fyddai’r dadleuon na’r dystiolaeth wedi gallu gwrthbrofi canlyniad un bleidlais heb sôn am holl bleidleisiau chweched talaith fwyaf poblog y wlad.
Dydy Donald Trump na’i dîm ddim wedi gwneud sylw hyd yn hyn.
Yr achos
Rudy Giuliani, y cyn-erlynydd a chyn-Faer Efrog Newydd, oedd yn cynrychioli Donald Trump a’i ymgyrchwyr yn y llys.
Ond fe wnaeth e gorddi’r dyfroedd o’r dechrau’n deg, gan greu dryswch ynghylch ystyr y gair “opacity”, methu ag adnabod y barnwr a’i gymryd am farnwr ffederal arall mewn ardal wahanol, a phrocio barnwr arall.
Roedd yn mynnu ei bod yn anghyfreithlon i siroedd helpu pobol i bleidleisio – rhywbeth a gafodd ei wrthbrofi yn ystod yr achos.
Ac roedd Donald Trump yn mynnu bod anghysondeb yn y ffordd roedd swyddogion etholiadol yn rhoi gwybod i wahanol bobol am nam cyn iddyn nhw fwrw eu pleidlais drwy’r post.
Roedd yr achos yn erbyn Donald Trump yn dadlau bod ymgyrchwyr eisoes wedi codi amheuon tebyg mewn llefydd eraill ac wedi colli’r achos, a bod eu cyhuddiadau’n rhy eithafol i’w derbyn.