Dim ond chwe pherson allan o 560 brofodd yn bositif ar gyfer y coronafeirws ar y diwrnod cyntaf o brofion yng nghanolfan newydd Merthyr Tudful ddoe (dydd Sadwrn, Tachwedd 21).

Fel rhan o gynllun peilot, mae profion yn cael eu cynnig i holl drigolion a gweithwyr y dref hyd yn oed os nad oes ganddyn nhw symtomau.

Cyrhaeddodd y dref frig y rhestr ar gyfer y trefi â’r nifer fwyaf o achosion yng ngwledydd Prydain am gyfnod yr wythnos ddiwethaf.

Ers hynny, mae’r dref hefyd wedi gweld y gwymp fwyaf yn y gyfradd heintio – o 770 o achosion ym mhob 100,000 o’r boblogaeth i ddim ond 260.

Yng Nghanolfan Hamdden Rhydycar mae’r ganolfan gyntaf, ac mae disgwyl i ragor gael eu hagor yn y sir cyn diwedd y mis.

Bu’n rhaid i’r bobol gyntaf aros dros awr a hanner i’r ganolfan agor am 10.30 fore ddoe.

‘Y ffordd orau’

Yn ôl Lisa Mytton, dirprwy arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, y cynllun peilot hwn yw’r ffordd orau o ddod o hyd i achosion positif o’r coronafeirws ac i’w lleihau.

“Tybed pa ffordd arall fyddai o’i gwneud hi oni bai am y ffordd yma,” meddai.

“Dw i wir yn obeithiol y bydd yn cael pawb allan fel y gallwn ni ddod o hyd i’r bobol hynny sydd heb symtomau yn cerdded o amgylch heb wybod fod ganddyn nhw’r coronafeirws a’u gweld nhw fel y gallan nhw hunanynysu fel y gallwn ni wedyn leihau ein cyfraddau ymlediad.

“Bydd hyn yn helpu yn y pen draw fel bod pobol yn gallu gweld eu perthnasau a dychwelyd i ryw fath o normalrwydd.”

Canmol ymdrechion

Mae Lisa Mytton wedi canmol y rhai fu’n gyfrifol am sefydlu’r ganolfan.

“Mae ei chael hi’n weithredol, a chael y staff a’r gwirfoddolwyr, wedi cymryd ymdrech anhygoel a dw i mor falch fod pawb wedi cyd-dynnu,” meddai.

Mae’n cymryd hyd at hanner awr i gael canlyniad wedi’r prawf, ac mae gofyn i’r rhai sy’n cael prawf positif hunanynysu ar ôl ail brawf yn eu ceg.

Mae’r lluoedd arfog yn cynnig cefnogaeth i gynnal y profion.

DIWEDDARIAD

Erbyn prynhawn heddiw (dydd Sul, Tachwedd 22), mae’r Cyngor yn dweud bod 977 o brofion wedi cael eu cynnal ar y diwrnod cyntaf, a bod naw yn unig yn brofion positif a’r gweddill yn negyddol.