Mae disgwyl i Rishi Sunak, Canghellor San Steffan, gyhoeddi buddsoddiad o gannoedd o filiynau o bunnoedd mewn gwasanaethau iechyd meddwl.
Fe fydd yn cyhoeddi ei Adolygiad Gwariant yr wythnos hon, ac mae disgwyl i hwnnw gynnwys ehangu gwasanaethau iechyd meddwl wrth ymateb i effaith y coronafeirws.
Fel rhan o hynny, gallai gwasanaethau arbenigol i blant a phobol ifanc gael eu cyflwyno, yn ogystal â mwy o gymorth i’r rhai sydd â salwch meddwl difrifol, a mynediad cynt i gefnogaeth ar gyfer iselder a gorbryder.
Fe ddaw wrth i Lywodraeth Prydain hefyd lansio Cynllun Iechyd Meddwl y Gaeaf.
Sut fydd yr arian yn helpu?
Mae Rishi Sunak yn addo mynd i’r afael ar unwaith â rhestrau aros hir i oedolion sy’n aros i gael eu trosglwyddo i wasanaethau iechyd meddwl, a sicrhau y gall plant gael mynediad i’r gwasanaethau angenrheidiol hefyd.
Bydd y rhan fwyaf o’r £500m yn cael ei wario ar wasanaethau newydd i blant a phobol ifanc yn yr ysgol, mwy o gefnogaeth i’r salwch meddwl mwyaf difrifol, mynediad cynt i wasanaethau arbenigol i drin iselder a gorbryder a chefnogaeth i weithwyr y Gwasanaeth Iechyd.
Mae salwch meddwl yn costio £35bn bob blwyddyn, gyda’r galw am wasanaethau’n cynyddu yn ystod y pandemig coronafeirws.
Bydd ardaloedd lleol hefyd yn elwa o gael £1.2m ar gyfer gwasanaeth newydd i gael mynediad at ddata’n ymwneud â hunanladdiad, ac fe fydd Llywodraeth Prydain hefyd yn diweddaru cyfleusterau ac yn buddsoddi yn y gweithlu i drin salwch meddwl.
Ynysig ac ansicr
Yn ôl Rishi Sunak, Canghellor San Steffan, mae’r pandemig wedi cael effaith sylweddol ar iechyd meddwl pobol wrth iddyn nhw fynd yn ynysig ac ansicr.
“Mae’n hanfodol, felly, ein bod ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi ein gwasanaethau iechyd meddwl a sicrhau bod cymorth ar gael i bobol,” meddai.
“Bydd yr arian hwn yn sicrhau bod y rhai sydd angen cymorth yn cael y gefnogaeth briodol mor gyflym â phosib fel nad oes rhaid iddyn nhw ddiodde’n dawel.”