Mae Llywodraeth Cymru’n galw ar Rishi Sunak, Canghellor San Steffan, i wfftio’r posibilrwydd o rewi cyflogau’r sector cyhoeddus, ac i ymrwymo i’r cyllid sydd ei angen i warchod iechyd a swyddi, ac i gefnogi adferiad economaidd.
Daw hyn wrth i’r Canghellor baratoi ei adolygiad o wariant.
Mae Rebecca Evans, yr Ysgrifennydd Cyllid, yn galw arno i ddefyddio pwerau’r Trysorlys i gefnogi gweithwyr y rheng flaen sydd wedi bod yn rhan mor bwysig o fywyd y gymdeithas yng nghanol y pandemig coronafeirws.
Yn eu plith mae gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd, a’r rhai sy’n gweithio mewn ysgolion, colegau a chynghorau lleol, ac mae Llywodraeth Cymru’n dweud y dylen nhw gael eu gwobrwyo’n ariannol ac nid talu’r pris.
Mae Rebecca Evans yn galw hefyd am:
- Arian tymor hir i roi sicrwydd i’r cymunedau sydd wedi dioddef fwyaf o ganlyniad i stormydd a thirlithriadau ger glofeydd.
- Sicrwydd o wireddu addewidion ôl-Brexit
- Hyblygrwydd cyllidebol i sicrhau bod modd ffocysu arian lle a phryd mae ei angen
‘Heriau na welwyd mo’u tebyg o’r blaen’
“Rydym yn wynebu heriau na welwyd mo’u tebyg o’r blaen, yn sgil y niwed a gafodd ei achosi gan bandemig y coronafeirws, a’r ansicrwydd ynglŷn â diwedd cyfnod pontio’r Undeb Ewropeaidd,” meddai Rebecca Evans.
“Gyda’r adferiad economaidd yn y fantol, mae angen ymrwymiad pendant arnom y bydd Cymru yn cael cyllid digonol i fynd i’r afael â’r heriau hyn a chefnogi adferiad teg.”
Mae hi hefyd yn annog y Canghellor i roi sicrwydd i gymunedau Cymru ynglŷn â’r cyllid sydd ei angen ar gyfer costau atgyweirio yn sgil llifogydd a chostau diogelwch tomenni glo.
“Cymunedau yng Nghymru gafodd eu taro galetaf gan y stormydd ym mis Chwefror ac mae gwaddol y tomenni glo yn golygu cost anghymesur i Gymru sy’n bodoli ers cyn datganoli,” meddai.
“Nid yw’r ffactor ar sail anghenion yn fformiwla Barnett yn addas ar gyfer y costau hyn, gan nad oedd y fformiwla i fod i ddelio â’r mater gwaddol sylweddol hwn.
“Rydym wedi rhoi sicrwydd i awdurdodau lleol ar gyfer y gwaith sydd ei angen ar unwaith, ond gall y Canghellor ddefnyddio’r datganiad hwn i ddarparu setliad hirdymor sydd, o’r diwedd, yn cydnabod pryder y cymunedau dan sylw.”
Parchu datganoli
Mae Rebecca Evans hefyd yn ategu’r alwad ar i Lywodraeth Prydain barchu’r setliad datganoli ac i ddisodli arian sydd wedi’i golli o adael yr Undeb Ewropeaidd.
Dywed y bydd cymunedau ffermio a chefn gwlad Cymru yn cael eu taro galetaf pe na bai cyllid digonol ar gael.
Bydd cyfrifoldeb am gyllid strwythurol o’r newydd yn rhan ganolog o’r adferiad ôl-Covid ac mae Llywodraeth Cymru’n dweud y dylid datganoli’r pwerau’n llawn.
Maen nhw’n dweud y byddai ceisio hepgor Llywodraeth Cymru a gwario’n uniongyrchol yng Nghymru’n tanseilio datganoli ac yn bygwth blynyddoedd o waith caled i ddatblygu strwythurau i ddiwallu anghenion pobol, cymunedau a busnesau Cymru.
“Rhaid i Lywodraeth y DU wireddu addewidion a wnaed droeon na fyddai Brexit yn arwain at golli unrhyw gyllid na phwerau datganoledig,” meddai Rebecca Evans.
“Rhaid i Gymru beidio â cholli ceiniog o ganlyniad i adael yr UE.
“Os yw Llywodraeth y DU o ddifrif ynglŷn â thegwch a chydraddoldeb rhanbarthol yna byddem hefyd yn croesawu camau ganddi i wireddu ei hymrwymiad blaenorol i fynd i’r afael â’r diffyg buddsoddi hanesyddol yn seilwaith rheilffyrdd Cymru.”
Yn olaf, mae Canolfan Llywodraethiant Cymru, FSB Cymru, TUC Cymru a Phwyllgor Cyllid y Senedd yn cefnogi’r alwad am ragor o hyblygrwydd cyllidebol i wneud y gorau o adnoddau Llywodraeth Cymru er mwyn ymateb i’r pandemig wrth i ddiwedd y flwyddyn ariannol ddod i ben.